JONES, THOMAS (c. 1622 - 1682), dadleuwr Protestannaidd

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: c. 1622
Dyddiad marw: 1682
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dadleuwr Protestannaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yng Nghroesoswallt, yn fab i John Williams (fab William ap Meredith o Bwllheli), ac yn ôl pob tebyg yn nai i Henry Williams, clerc tref Croesoswallt yn 1623. Torrwyd ar ei yrfa yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, gan y Rhyfel Cartrefol, ond aeth i Rydychen drachefn yn 1646, pryd yr arwyddodd y Cyfamod ac y cafodd gymrodoriaeth yng Ngholeg University gan ymwelwyr y Senedd, cyn cymryd ei radd ar 23 Chwefror 1650 (M.A. 20 Chwefror 1651). Ar 4 Medi 1654 cymeradwywyd ef gan y profwyr fel gŵr cymwys i fywoliaeth, a rhoddwyd iddo reithoraeth Castell Caereinion; dysgodd ddigon o Gymraeg i weinyddu. Serch iddo honni iddo gael urddau gan esgob yn 1654, trowyd ef allan ar yr Adferiad, a rhoi'r hen offeiriad Rice Wyn yn ei ôl yn y plwyf; ond penodwyd ef yn gaplan i Carbery, llywydd Cyngor y Goror, yn Llwydlo; ac yn 1663 penodwyd ef yn gaplan (preifat a llyngesol) i'r dug York. Ar 11 Tachwedd 1665 llwyddodd ei noddwr i gael iddo gan y Goron reithoraeth Llandyrnog, Dyffryn Clwyd, pan oedd esgobaeth Bangor (yr oedd y rheithoraeth hon gynt yn rhan o'i chyflog) yn wag; a phan gollodd ei gaplaniaeth yn 1666 trwy elyniaeth esgob Winchester (yr oedd Jones wedi ei gyhuddo o fod yn Brotestant claear), gwnaeth ei loches yn Llandyrnog. Yn 1670, eto trwy elyniaeth esgob Winchester, erlynwyd ef o flaen Mainc y Brenin, a'i ddirwyo, ar y cyhuddiad o ' scandalum magnatum ' am iddo ymosod ar Babyddiaeth y llys brenhinol; gyda hynny, yn herwydd ei anufudd-dod i'w esgob ei hunan, Robert Morgan, a oedd â'i fryd ar adfeddiannu'r rheithoraeth, cymerwyd ei fywoliaeth oddi arno, ond cafodd hi'n ôl wedyn. Cyfrannodd amryw bamffledau i bropaganda gwrth-babyddol Titus Oates (rhestr yn D.N.B. ac enw un arall yn Calendar of State Papers, Domestic Series, 1680-1, 319); yn y rhain, amddiffynnai Eglwys Loegr yn erbyn Eglwys Rufain, ac ef ei hunan yn erbyn ei 'erlidwyr.' Nid oes ddigon o sail i'r haeriad iddo wrthod esgobaeth Bangor yn 1665, a cheisio amdani drwy ei hen noddwr y dug York pan daenwyd y chwedl ddi-sail fod yr esgob Humphrey Lloyd wedi marw yn 1681. Bu farw 8 Hydref 1682 yn Totteridge, Hants., pan yn aros gyda Francis Charlton, brawd-yng-nghyfraith Richard Baxter. Disgrifiad Anthony Wood ohono yw ' troubled with a rambling and sometimes crazy'd pate.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.