Ganwyd yn Llangefni 1 Ebrill 1816; am ei gysylltiadau teuluol gweler dan Richard Davies. Bu yn yr Ysgol Genedlaethol yn Llangefni ac wedyn mewn ysgol yng Nghaer; yna gofalai, dros ei dad, am ffowndri haearn yng Nghaernarfon, ond wedyn ymunodd â'i deulu ym Mhorthaethwy. Serch iddo fod yn siryf (1862) a dirprwy-raglaw, ni chymerth ran mewn bywyd cyhoeddus; ac ar wahân i'w fusnes (a'i hobi - cemeg) ei ddiddordeb mawr oedd elusengarwch. Tua 1862 aeth o Fwlch-y-fen i fyw ym Modlondeb (ar gyfer y Borth), yn gynnil gynnil, gan adael i'w arian gronni hyd tua 1885, pan ddechreuodd eu gwasgaru yn elusennau. Ei enwad (y Methodistiaid Calfinaidd) a gafodd fwyaf ganddo - rhoddion tywysogaidd. Yn wahanol i'w frawd, nid oedd ganddo ddiddordeb mewn addysg (tanysgrifiodd ryw gymaint i'r Coleg Normal ac i Goleg y Brifysgol ym Mangor). Enghraifft ddigri o'i elusennau manach oedd y dogn o flawd a roddai bob wythnos i'r sawl a fodlonai i ddod i Fodlondeb i'w gyrchu. Trwy un ffordd neu arall, dywedir iddo wario bron bum can mil o bunnoedd mewn elusennau; ac y mae'n wir nad oedd ganddo fwy na hynny'n ôl pan fu farw. Dyn od a digymdeithas oedd ef; ni phriododd, a bu farw ym Modlondeb 29 Rhagfyr 1905 heb adael ewyllys ar ei ôl. Claddwyd ef gyda'i rieni yn Llangefni.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.