Ail fab Matthew Herbert (Abertawe) ac wyr Syr George Herbert, yr aelod seneddol cyntaf dros sir Forgannwg y gwyddys amdano a mab Syr Richard Herbert o Ewyas (gweler Herbert, ieirll Pembroke). Daeth yn aelod o'r Doctors' Commons (1573), yn gyd-gomisiynwr llys y llynges gyda Dr. David Lewis (1520? - 1584), ac yn 'Master of Requests' (gyda William Aubrey o 1590), 1586-1601. Cymerth ei D.C.L. yn Rhydychen ac yr oedd yn un o'r doethuriaid a ddewiswyd i 'ddadleu' gerbron Elisabeth pan ymwelodd hi â Rhydychen yn 1592. Oherwydd ei 'berffeithrwydd mewn ieithoedd' - ceir enghraifft o hyn yn y ffaith ei fod yn parhau i fod yn rhugl ei Gymraeg ar ôl treulio oes yn Lloegr - fe'i defnyddiwyd yn gyntaf i gwestiyno carcharorion rhyfel o wledydd eraill (1574), wedi hynny ar genhadaethau ynglyn â masnach yn Denmarc (1583 a 1600), Pwyl (1583-4), a Brandenburg (1585), ac ar genhadaethau gwleidyddol yn yr Iseldiroedd (1588) a Ffrainc yn 1598 gyda'r ysgrifennydd Cecil - bu'n ysgrifennydd i Cecil ar ôl iddynt ddychwelyd. Awgrymwyd ei ddewis fel llysgennad parhaol yn Ffrainc yn 1598 ac fel canghellor y Duchy of Lancaster y flwyddyn ddilynol, ond fe gafodd ei ddewis (Ebrill 1600) yn Ail Ysgrifennydd y Wladwriaeth (teitl cywrain a newydd), yn aelod o'r Cyfrin Gyngor (10 Mai), ac, yn gynnar wedi hynny, yn ysgrifennydd Cyngor y Gogledd (lle y gweithredai trwy gyfrwng dirprwy). Bu'n cynorthwyo llysgennad a anfonwyd i Ffrainc ynglyn â'r ymgynghori (na ddaeth dim ohono) gyda Sbaen yn Boulogne (Mai hyd Awst 1600), a chymerth ran ym mhrawf Syr Gelly Meyrick a rhai eraill y bu a fynnent â gwrthryfel iarll Essex (1601), cafodd ei wneuthur yn farchog ac yn aelod o'r Cyngor yn Llwydlo (1602), ac yr oedd allan o'r wlad ar ei drydedd genhadaeth i Ddenmarc (Medi 1602-Mawrth 1603) pan fu Elisabeth farw. Cafodd gadw ei swyddi o dan Iago I; yr oedd yn gomisiynwr mater yr uno â'r Alban ac yn gomisiynwr materion eglwysig yn 1603 ac ar gomisiynau eraill yn 1608; eithr gwell oedd gan y brenin, pan oedd Cecil i ffwrdd, weithredu trwy gyfrwng ysgrifenyddion answyddogol megis ei ffefryn Philip Herbert yr iarll Montgomery 1af wedi hynny. Ymhellach, pan symudwyd Cecil i Dy'r Arglwyddi, gosodwyd ar Herbert amddiffyn y polisi brenhinol yn Nhy'r Cyffredin; serch iddo fod yn aelod o'r ty hwnnw er y flwyddyn 1586 - dros fwrdeisdref yn Lloegr i gychwyn ac yna dros sir Forgannwg (1601) a sir Fynwy (1604-11) - nid ydoedd yn wleidyddwr. Pan fu farw ei noddwr a'i gydweithiwr Cecil (bellach yn iarll Salisbury) yn 1610, cafodd Herbert siom pan na chafodd ei ddilyn ef yn Brif Ysgrifennydd - cadwyd y swydd yn wag hyd 1614, ac er bod Herbert yn ysgrifennydd mewn enw ni bu â fynnai mwyach â materion cyhoeddus ac ni bu iddo eistedd yn Senedd 1614. Bu farw Gorffennaf 1617 yng Nghaerdydd ar ôl (efallai, oblegid canlyniadau) gornest ymladd rhyngddo ef a Syr Lewis Tresham. Trwy ei wraig Margaret, merch William Morgan, Cefn Coch (neu o Benclawdd), bu iddo un plentyn - merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.