Ganwyd yn Llundain, 3 Ebrill 1593, i Richard a Magdalen Herbert (gweler Herbert o Drefaldwyn). Bu'r tad farw yn 1596 a gadawyd y mab yng ngofal ei fam; bu hi'n byw am ychydig gyda'i mam, Lady Newport, yn Eyton, yna symudodd i Rydychen, ac oddi yno i Lundain. Bu addysg George yng ngofal athro preifat nes yr aeth i Ysgol Westminster yn 1605. Oddi yno aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, 1609. Ar ddydd calan 1610 anfonodd i'w fam ddwy soned y mynegai ynddynt ei fwriad i ymroddi i ysgrifennu barddoniaeth gysegredig. Eisoes yr oedd ei iechyd yn wannaidd, a bu raid iddo ymladd weddill ei oes rhag y gwendid hwn.
Graddiodd yn 1612, fe'i hetholwyd yn gymrawd yn 1614, ac yn 1616 cymerodd ei M.A. Gwnaethpwyd ef yn ddarlithydd mewn rheitheg ('Praelector in Rhetoric') yn 1618, ac yn 1620 yn ' Public Orator ' y brifysgol; traddododd rai areithiau yn rhinwedd yr ail swydd, eithr ymddiswyddodd yn 1626 gan fod ei ddiddordebau i gyfeiriad arall. Fis Ionawr 1624 etholwyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Trefaldwyn ac eisteddodd yn 1625 yn Senedd gyntaf Siarl I.
Penderfynodd, fodd bynnag, roddi'r gorau i fywyd lleygol. Yr oedd ganddo eisoes gyfran, ddi-ofal, yn rheithoraeth Llandinam, a daliodd hon hyd ei farw; o'r flwyddyn 1626, pan wnaethpwyd ef yn brebend Leighton Ecclesia gan esgob Lincoln, yr oedd â'i fryd ar yr offeiriadaeth.
Priododd Jane Danvers yn 1629, a'r flwyddyn ddilynol daeth yn rheithor Fuggleston-cum-Bemerton yn Wiltshire. Bu farw yn Bemerton yn 1633 (claddwyd 3 Mawrth). A Priest to the Temple (a gyhoeddwyd yn Herbert's Remains, 1652) a The Temple, 1633, ydyw ei brif weithiau. Cerid y bardd oblegid ei dduwioldeb a'i ymroddiad i'w alwedigaeth ac edmygir ei ddarnau barddonol yn fawr yn herwydd didwylledd y modd y maent yn datguddio ei ymdrechion ysbrydol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.