MARSHAL (TEULU), ieirll Penfro

WILLIAM MARSHAL (I) (1146? - 1219), rhaglaw Lloegr

Y cyntaf o'r teulu a fu'n iarll Penfro a Striguil. Mab ydoedd i John Fitz Gilbert (' John the Marshal ') a'i ail wraig Sibyl, chwaer Patrick de Salisbury, iarll cyntaf Wiltshire. Yn 1189 rhoddwyd Isabel, iarlles Striguil a Phenfro, merch Richard de Clare, yn wraig iddo gan y brenin Rhisiart, a thrwy'r briodas hon fe'i dyrchafwyd i safle uchel fel tirfeddiannwr yn Lloegr, Iwerddon, a Normandi yn ogystal ag ym Mhenfro a Gwent. O hyn allan bu ef, a'i feibion ar ei ôl, â dylanwad enfawr ganddynt ar gwrs hanes politicaidd a milwrol Cymru a'r gororau. Yn ystod rhyfel Rhys ap Gruffydd yn erbyn Normaniaid Deheudir Cymru yn 1192, efe oedd un o arweinwyr yr ymgyrch a ryddhaodd gastell Abertawe ac achub Gŵyr rhag y Cymry; cododd arian hefyd ar gyfer yr ymladd. O'i benodi'n geidwad castell Aberteifi yn 1202 gan y brenin John, tyfodd ei awdurdod pwerus yn y gororau. Yn 1204 enillodd gastell Cilgerran yn Emlyn - arglwyddiaeth yr oedd ganddo hawl iddi - oddi wrth Faelgwn ap Rhys, a chyfyngu rheolaeth y tywysog i gyffiniau Ceredigion. Tra parhaodd y gynnen a fu rhyngddynt yn 1207-11, cymerodd y brenin gastell Aberteifi o ddwylo William Marshal a'i gyflwyno i William de London yn 1207. Ond yn 1211 galwodd y brenin arno eto i'w gynorthwyo ynglŷn â'r ymgyrch yn erbyn y Cymry ac adferwyd iddo ei gestyll yn Lloegr a Chymru. Yn y flwyddyn ddilynol bu'n ymladd o blaid y brenin yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth. Erbyn hyn yr oedd y brenin ac yntau ar delerau cyfeillgar; ar 19 Hydref 1213 adferwyd castell Hwlffordd iddo ac yn 1214 cyflwynwyd iddo gestyll brenhinol Aberteifi, Caerfyrddin, a Gŵyr. Efe oedd prif gynrychiolydd y brenin yn Neheudir Cymru yn ystod ymryson y blynyddoedd hyn a phenodwyd ef yn bencadfridog barwniaid teyrngar y gororau yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth a'r tywysogion eraill a oedd mewn cynghrair â barwniaid gwrthryfelgar teyrnas y brenin John. Ni bu'n llwyddiannus iawn yn amddiffyn ei diroedd a'i gestyll yn Nyfed pan ymosododd Maelgwn ap Rhys a'i nai, Rhys Ieuanc, arnynt yn 1215. Daeth y rhyfela i ben gyda Chytundeb Caerwrangon (Mawrth 1218) ac er mwyn sicrhau heddwch trwy'r deyrnas caniataodd William Marshal i Lywelyn ap Iorwerth fod yn geidwad cestyll brenhinol Aberteifi a Chaerfyrddin, ond daliodd ei afael ar Gaerlleon a enillasai oddi wrth Morgan ap Hywel yn 1217. Bu'n gymwynaswr i abatai Tintern, Penfro, a Pill, a chyflwynodd siartr i dref Hwlffordd. Bu farw 15 Mai 1219.

WILLIAM MARSHAL II (bu farw 1231)

Y cyntaf o bum mab William Marshal (I) a fu'n ieirll Penfro yn eu tro. Yn 1220 ymosodwyd ar ei dreftadaeth ef yn Nyfed gan Lywelyn ap Iorwerth a gwynasai fod deiliaid yr iarll yn gormesu ar y Cymry er gwaethaf y cadoediad. Ar ôl anfon apêl i'r brenin gwnaed cytundeb rhyngddynt. Yn 1223 ymddialodd yr iarll ar Lywelyn pan ddaeth â byddin o Iwerddon i ailgymryd Aberteifi a Chaerfyrddin a hefyd Emlyn, a gorfu i'r tywysog ddyfod i gytundeb. Penodwyd yr iarll yn gwnstabl cestyll Aberteifi a Chaerfyrddin a bu'r cestyll yn ei ddwylo hyd 1226. Cafodd gymorth Cynan ap Hywel ap Rhys yn y brwydro hwn, ac am ei wasanaeth rhoddodd yr iarll Emlyn ac Ystlwyf iddo. Parhaodd Caerlleon yn ei feddiant hyd ddiwedd ei oes er gwaethaf yr ymryson a fu rhyngddo â'r brenin a Morgan ap Hywel ynglŷn â'i hawliau yno. Yn 1228 cymerodd ran yn rhyfelgyrch arglwyddi'r gororau yn erbyn Llywelyn. Bu farw Ebrill 1231.

RICHARD MARSHAL (bu farw 1234)

Ail fab William Marshal (I), a ddilynodd ei frawd William yn yr iarllaeth. Ef oedd arweinydd y barwniaid a fu'n gwrthwynebu Harri III a'i gynghorwyr estronol. Daeth terfyn ar y brwydro parhaus rhwng y Marshaliaid a thywysog Gwynedd, a ffurfiwyd cynghrair rhyngddynt er gwrthsefyll byddin y Goron yn rhyfel y gororau yn 1233-4. Ar ddechrau'r rhyfel enillodd y brenin Frynbuga oddi wrth Richard ond sefydlwyd cadoediad byr ar 6 Medi 1233. Pan wrthododd Richard adfer Caerlleon i Forgan ap Hywel ni ollyngai'r brenin ei afael ar Frynbuga. Ar 15 Hydref ailddechreuodd y rhyfel ac ymunodd Llywelyn â'r iarll. Adenillwyd Brynbuga, ac ar ôl cydweithrediad rhwng eu byddinoedd yn nyffryn Wysg syrthiodd nifer o gestyll, gan gynnwys Abergafenni, i ddwylo'r iarll. Ymosodwyd ar y brenin yn Grosmont c. 17 Tachwedd a gorfu iddo gilio i Henffordd. Gorchfygwyd ei fintai hefyd ger Trefynwy. Yn Ionawr 1234 bu Richard a Llywelyn wrthi'n diffeithio'r gororau. Ar ôl y buddugoliaethau hyn croesodd Richard i Iwerddon, ac ym mis Mawrth penderfynodd y brenin alw am gadoediad. Ar 15 Ebrill bu Richard farw yn Iwerddon.

GILBERT MARSHAL (bu farw Mehefin 1241)

Y trydydd o bum mab William Marshal (I), oedd olynydd Richard. Derbyniwyd ef yn ffafriol gan Harri III, ac ar 9 Rhagfyr cyflwynwyd iddo gestyll a threfydd Caerfyrddin ac Aberteifi. Yn 1235 rhoddwyd Morgannwg yn ei ofal yn ystod maboed yr etifedd, a chafodd hefyd arglwyddiaeth Caerfyrddin. Cadwodd Forgan ap Hywel allan o'i dreftadaeth yng Nghaerlleon, ac yn 1236 dug gastell ym Machen oddi wrtho am ysbaid. Bu'n gymwynaswr i abaty Tintern ac ysbyty gwahangleifion Mair Magdalen yn Hwlffordd.

WALTER MARSHAL (bu farw 24 Tachwedd 1245)

Anfonwyd Walter gan ei frawd, yr iarll Gilbert, i gryfhau amddiffynfa Aberteifi yn 1240; cymerodd hefyd dros ei frawd diroedd yn perthyn i arglwyddiaeth Caerfyrddin - cymydau Ystlwyf ac Emlyn-uwch-Cuch - ac yna cyflwynodd yr iarll hwy i Maredudd ap Rhys Gryg. Ar ôl etifeddu'r iarllaeth (1234) nid ymddengys iddo fod yn flaenllaw yng Nghymru.

ANSELM MARSHAL (bu farw 1245)

Bu Anslem, yr olaf o feibion William Marshal y rhaglaw, farw yn Rhagfyr 1245 cyn ei urddo'n iarll Penfro. Fel ei frodyr yr oedd yn ddiblant.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.