GRUFFUDD GRYG, bardd o Fôn yn ail hanner y 14eg ganrif.

Enw: Gruffudd Gryg
Priod: Goleuddydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Place: Fôn
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ifor Williams

Cesglir hyn oddi wrth ei gywydd i saith mab Iorwerth ap Gruffudd o Liwon ym Môn, gwŷr a oedd yn eu blodau yn ôl pob tebyg tua 1360-70. Dywed ei fod yn gâr iddynt, a chyfarch hwy fel ei geraint; gan hynny rhaid ei fod yn rhywfath o berthynas i lwyth Hwfa ap Cynddelw (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 5). Canodd hefyd i Einion ap Gruffudd, Chwilog, Eifionydd; cyfeiria at ei radd, ‘ar waith ystad,’ a'i golerwisg o arian, a'i fod uwch ben eraill yng Ngwynedd. Yn ôl Breese (Kalendars of Gwynedd, 49) apwyntiwyd ef yn siryf Caernarfon yn 1351, a bu yn y swydd hyd 1359. Teg amseru'r cywydd yn y cyfnod hwn, neu'n fuan wedi. Os Gruffudd Gryg biau'r farwnad i Rys ap Tudur ‘cun (h.y. pennaeth) Môn’ a urddaswyd gan Risiart frenin, ac a benodwyd yn ‘Geidwad Ceirw Eryri,’ rhaid credu iddo fyw hyd ddechrau'r ganrif nesaf, canys bu Rhys f. yn Arddreiniog yn 1412, medd Rowlands (Arch. Camb., iv, 267). Cyn derbyn hynny hoffem gael tystiolaeth bellach ar y ddau bwynt — awduriaeth y cywydd a blwyddyn marw Rhys.

Wrth ddychwelyd o bererindod i Sain Siâm, Sbaen, bu agos i long Gruffudd gael ei thaflu i'r lan ‘yn nhir Harri,’ ei elyn. Onid Lloegr, dan Harri IV, ac felly rywdro rhwng 1399 a 1413 ? Pa ben i'r cyfnod?

Sicr yw i Ruffudd gyfoesi mewn rhan â Dafydd ap Gwilym, canys bu ymryson enwog rhwng y ddau. Rhoed gynt amcan am dymor canu Dafydd fel 1340-80, a phe tybid i Ruffudd oedi canu i Einion hyd 1360, a dal ymlaen hyd 1412, rhoddai hynny 1360-80 fel amcan am gyswllt posibl y ddeufardd, a thros hanner canrif o brydyddu i Ruffudd ! Mae hyn yn gyfnod go hir; dyna pam y petrusir ynglŷn â marwnad Rhys ap Tudur.

Troer at yr ymryson â Dafydd ap Gwilym am nodau amseryddol. Yn gyntaf oll, rhaid pwysleisio mai cellwair yw'r dilorni a phardduo. Pentyrra'r beirdd gabl ffiaidd ar famau ei gilydd, gan ddychanu mewn iaith gyfoethog o eirfa'r cwterydd. Yn lle moli yn null penceirddiaid, y gamp yw dangos eu medr fel bawgeiniaid. Ymunwyd yn yr ‘hwyl’ gan Iolo Goch, Ithel Ddu, Tudur Goch, ac eraill; gweler Ashton, Gweithiau Iolo Goch, 404-20, am sampl deilwng o groesanaeth y cyfnod. Celwydd hollol, fodd bynnag, yw'r goganu, ac ofer chwilio am wir hanes yn y cyfryw domen. Nid ‘Mallt y Cwd’ ‘Hersdin Hogl’ oedd mam Gruffudd, ac nid ‘Gwyddelyn’ oedd yntau, na mab Gwyddeles. Odid nad oedd Ddafydd ei hun (D.G. 127, 49-54) wedi gweld fod ei blaid ef wedi mynd yn rhy bell, ac meddai, ‘Tudur Goch, taw di â'r gerdd … Gad rhof fi â'r gŵr.’ Yna canodd farwnad i Ruffudd sy'n orlawn o fawl di-fesur i ‘Eos gwŷr Môn.’ Etyb yntau'n ôl gyda marwnad odidog i ‘Baun Dyfed.’ Dewisach ganddo ddychan o ben Dafydd na gloyw glod gan brydydd arall. ‘Disgybl wyf ef a'm dysgawdd / Dysgawdr cywydd huawdr hawdd.’ ‘Ar y gwir y bu … A minnau ar y gau.’ A thrwy esgus marwnadu fel hyn i'w gilydd, rhydd y ddau brifardd daw ar yr holl helynt mewn dull mawrfrydig a weddai i'w gradd. Yn anffodus, golyga hyn nad oes bellach sail inni i ddal mai yn Llanfaes y claddwyd Gruffudd, gan mai ffug yw'r farwnad a ddywed hynny. Ond cawn beth mwy, sef cydnabod gan Ruffudd mai Dafydd oedd ei athro ym myd y cywydd. Yn sicr yn ei gywyddau dyfalu i'r Don, ac i Leuad Ebrill, mae'n llawn cystal â'i athro, onid gwell. Geilw Dafydd ef yn was, h.y. bachgen (D.G. 123), ac ef ei hun yn ‘dad’ ('Dyrnawd … yn rhad gan ei dad nid a') cyn i'r ymryson chwerwi yn ffrae. Yn wir, dyna'r argraff a erys o hyd — bardd ifanc yn herio bardd hŷn. Bu Gruffudd fyw i ganu i'r ywen uwch ben bedd Dafydd yn Ystrad Fflur.

Ei gyfnod felly yw ychydig diweddarach na Dafydd ap Gwilym; efallai hyd ddechrau'r 15fed ganrif. Ganed ef ger llys ei gariad Goleuddydd; llys faen ydoedd, meddai, ond ni ddywed ym mhle. Deil fod ganddo saith o gymdeithion i'w groesawu yn Aberffraw am bob un i Dafydd ap Gwilym (D.G.G., 137-8; D.G. 126), ond ni eilw'r lle'n gartref iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/