Yn ôl pob tebyg brodor o Fôn. Dywed Iolo Goch ei fod o wlad Meilyr, er ei fod yn ei gysylltu hefyd â Llŷn ac Ynys Enlli. Gelwir ef yn fardd enwog gan Iolo, ond yr unig dystiolaeth sydd gennym ynglŷn â'r dyfarniad hwn yw un cywydd a ddigwydd mewn dwy lawysgrif, Peniarth MS 77 (441) a Peniarth MS 78 (135). Ymddengys nad bardd proffesyddol mohono, ond yn hytrach gŵr a honnai fod yn sgweiar, a garai hela a chwmnïaeth (yn ôl Iolo), ac a oedd, fel eraill o'i ddosbarth, yn noddwr beirdd. Ef (yn ôl Iolo ei hun) a roddodd orchymyn i Iolo Goch i gyfansoddi'r cywydd gogan ffiaidd yn ymosod ar fam y bardd Gruffudd Gryg, a argraffwyd gan Charles Ashton yn ei argraffiad o waith Iolo (rhif xl). Gweler ymhellach yr erthygl ar Gruffudd. Ni ellir derbyn fel tystiolaeth hanesyddol y farwnad a ganodd Iolo i Ithel yn tybio ei fod wedi marw ar ynys Enlli - wedi ei lofruddio - fel yr awgrymir, gan Gruffudd Gryg. Ymddengys yn sicr mai cellweirus yw'r darn hwn, fel y cywydd gogan a nodwyd uchod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.