DAFYDD ap BLEDDYN (bu. farw 1346), esgob

Enw: Dafydd ap Bleddyn
Dyddiad marw: 1346
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Esgob Llanelwy ar ôl marw Llywelyn ap Llywelyn, 1314. Yn ôl Iolo Goch (Gwaith, gol. C. Ashton, 273), yr oedd o linach Uchtryd; o'r herwydd, fe'i gwneir gan yr achau yn frawd Ithel Anwyl ac yn nai Ithel Fychan, deuwr o ddylanwad yng ngwlad Fflint yn nechrau'r ganrif (Powys Fadog, iii, 106; iv, 154). Yr un ydoedd yr esgob, y mae'n bosibl, â'r ' David ab Bleyney, parsone de Kirkyn (Cilcen ?)' a dalodd wrogaeth yn 1301. Ar 18 Gorffennaf dug ef a chanon arall y newydd am farw'r esgob Llywelyn a rhoddwyd iddynt ganiatâd y brenin i symud ymlaen i ethol olynydd iddo. Ymddengys oddi wrth Peniarth MS 20 fod y cabidwl eisoes wedi gweithredu cyn cael y caniatâd a dewis David ar 23 Mehefin. Ar 7 Medi hysbyswyd archesgob Caergaint fod y brenin wedi cadarnhau'r ethol; ar 1 Dachwedd rhoddwyd y meddiannau lleyg yn eu hôl i'r esgobaeth ac yr oedd popeth yn barod i'r cysegru; gwnaethpwyd hyn yng Nghaergaint, 12 Ionawr 1315, a'r esgob newydd yn gwneuthur y broffes arferol o ufudd-dod i'r archesgob.

Di-ddigwyddiad a fu tymor Dafydd fel esgob. Ar 27 Hydref 1320 derbyniodd gan y Goron hawl i godi tollau yn yr hen ffair a gynhelid yn Llanelwy y dydd cyntaf o Fai (Cal. Chart. Rolls). Tua'r adeg hon y dechreuwyd ysgrifennu ' Llyfr Coch Asaph,' cyfrol yn cofnodi gweithrediadau'r esgobion a'r esgobaeth. Aeth y llawysgrif wreiddiol ar goll ond gwyddys beth oedd ei chynnwys am fod tri chopi ohoni ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol. Anaml yr ai'r esgob o'i dalaith; yr oedd, fodd bynnag, yn Halesowen ym mis Mehefin 1322 pan gysegrwyd Roger yn esgob Lichfield. Bu'n cyfreithio ym mis Rhagfyr 1330 gydag arglwydd Powys ynghylch eglwysi Meifod, y Trallwng, a Chegidfa. Yn 1336, gyda chaniatâd y cabidwl, cymerth feddiannau eglwys Nantglyn er mwyn gwella cyflog deg ficer yr eglwys gadeiriol; yn ôl y weithred, a gadarnhawyd gan y brenin yn 1341, ymddengys fod braich ddeheuol y gangell, lle y cynhelid y llysoedd eglwysig yn ddiweddarach, newydd gael ei hadeiladu. Bu cyfreithio yn erbyn yr esgob yn 1340-1 gyda'r amcan o gwtogi hawliau tymhorol yr esgobaeth, ond nid ymosodwyd ar ei gymeriad (gweler Flint Record Series, 2, xxix-xxxiii).

Nid oedd ysgrifenwyr cynnar yn medru bod yn sicr ynglyn a blwyddyn marw Dafydd - tybiasant na bu esgob newydd hyd 1352 - eithr dengys dogfennau'r babaeth i'r awdurdodau pabyddol yn Avignon glywed iddo farw yn 1346 ac felly i'r pab Clement VI allu rhoddi'r sedd wag i Siôn Trevor ar 26 Mehefin (Cal. Papal Letters, iii, 235; Petitions, i, 48).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.