TREVOR, JOHN (I) (bu farw 1357), esgob Llanelwy

Enw: John Trevor
Dyddiad marw: 1357
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ni wyddys fawr ddim amdano, a phrif amcan y nodyn hwn yw rhagflaenu'r duedd gyffredin iawn i'w gymysgu â John Trevor II. Y mae'n bur amlwg mai 'dringwr' ydoedd. Yn llys y pab yn Avignon y clywir gyntaf amdano - yn 1343, pan gafodd ganiatâd i ddal canoniaeth ym Mangor ar yr un pryd â chanoniaeth yn Llanelwy - cafodd yn 1344 chwanegu prebend yn Llanelwy. Ar farw Dafydd, esgob Llanelwy, bwriadai'r pab roi Eidalwr yn y gadair, ond safodd cabidwl Llanelwy 'n ffyrnig yn erbyn, a chynigiodd y pab yr esgobaeth (1346) i ' Griffin de Trevor.' Gwrthododd hwnnw hi, a chynigiwyd hi i'w nai, John Trevor, a oedd wrth law; cysegrwyd ef yn Avignon fis Mehefin 1346, ac anfonwyd ef drosodd i Gymru fis Gorffennaf. Ond yn ôl Le Neve, yn 1352, ac yn Rhufain, y cysegrwyd ef; gall mai ailgysegru a olygir - noder mai yn 1352 y gwnaeth Trevor ei broffes o ufudd-dod i archesgob Caergaint. Bu farw yn 1357 - ym mis Chwefror, meddai Le Neve, ond 'ganol y flwyddyn' meddai Browne Willis. Yn ôl traddodiad, ef a gododd y bont yn Llangollen; nid yw honno, fel y mae hi, ddim hŷn nag oes Elisabeth, ond nid yw'n amhosibl na chododd John Trevor bont yno'n flaenorol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.