TREVOR, JOHN (II) (bu farw 1410), esgob Llanelwy

Enw: John Trevor
Dyddiad marw: 1410
Rhiant: Iorwerth Ddu
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Jones Pierce

Ceir un cyfeiriad ato fel Ieuan ap Llywelyn, a thebyg yw iddo gael ei eni yn Nhrefor ger Llangollen ym Mhowys Fadog. Er nad oes sail yn yr achau i'r traddodiad, dywedir ei fod o gyff teulu'r Treforiaid yn sir Ddinbych. Y cyfeiriad cyntaf ato ar glawr oedd yn y flwyddyn 1386 pan oedd yn gantor Wells, swydd a ddaliodd hyd 1393. Yn y cyfamser etholwyd ef yn esgob Llanelwy yn 1389, ond pan ymwelodd â Rhufain, methodd â chael cadarnhad y pab i'r penodiad, ac arhosodd ymlaen yno fel swyddog y llys pabaidd. Pan ddaeth cyfle yr eilwaith yn Llanelwy yn 1394, cafodd Trefor yr esgobaeth gyda bendith y pab, a chychwynnodd ar ei waith fel esgob yn y flwyddyn ddilynol. Daeth Trefor i'r amlwg ar un waith yng ngwasanaeth y brenin Rhisiart II; bu'n llysgennad iddo yn Sgotland yn 1397, ac ychydig cyn ymddiswyddiad y brenin yn 1399, gwobrwywyd ef â swyddi seciwlaraidd uchel yng Nghymru. Ond ef oedd un o'r rhai cyntaf i droi ei gefn ar y brenin anffodus; cymerwyd Rhisiart yn garcharor yn esgobaeth Trefor, a'r esgob ei hun a ddarllenodd y ddedfryd o ddiorseddiad yn y Senedd. Parhaodd fel llysgennad a llefarwr dros y brenin ym mlynyddoedd cyntaf y frenhiniaeth newydd, a mor ddiweddar â 1403, ymhell ar ôl dechrau gwrthryfel Owain Glyndŵr, gwelwyd ef yn ddirprwy 'r tywysog Harri, a ddaeth wedyn yn Harri V. Ond yn sydyn, tua diwedd y flwyddyn ddilynol, penderfynodd ymuno ag Owain Glyndŵr.

Er bod ffeithiau ei fywyd yn awgrymu mai Eglwyswr hunangeisiol, nodweddiadol o'i oes, ydoedd, rhaid cofio iddo, cyn iddo ymuno â'r achos gwladgarol, brotestio'n aflwyddiannus yn y Senedd yn erbyn y driniaeth drahaus a gafodd ei gydwladwyr. Gwerthfawr iawn i Owain Glyndŵr, hefyd, fu ei brofiad diplomatig (fel y dengys y cytundeb â Northumberland yn 1405, a phenderfyniadau pwysig cynhadledd Pennal yn 1406 - pan fu'n gyfryngwr a chynghorwr) a'i wybodaeth gyfreithiol - yr oedd yn ddoethur yn y gyfraith. Mae'n ymddangos i'r gelyn hefyd gydnabod ei werth, oblegid yn 1409 cysylltir enwau Owain a'r esgob fel prif elynion y brenin. Bu farw ar 10 neu 11 Ebrill 1410, pan oedd ar genhadaeth i Baris, lle y claddwyd ef yn abaty S. Victor. Yr oedd iddo o leiaf un edmygydd pan oedd yn esgob Llanelwy cyn dechrau y gwrthryfel, gân i Iolo Goch gyfansoddi dau gywydd moliant iddo.

Y mae seiliau cryfion dros gasglu fod Trefor hefyd yn awdur gwaith adnabyddus ar herodraeth - y Tractatus de Armis, a'r fersiwn Gymraeg ohono; ac iddo gyfieithu Buchedd Sant Marthin (gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, iv, 3, 4; v, 1). Awgrymodd E. J. Jones y gellir yn ogystal roi awduraeth nifer o weithiau hanesyddol y cyfnod iddo (gweler Speculum, xii, 196 et seq.; xv, 464 et seq.).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.