Cyfaill a noddwr Iolo Goch, a gyflwynodd ddau gywydd gofyn iddo (gweler I.G.E., arg. cyntaf, 55-61, ail arg., 49-55), ac a'i coffhaodd mewn marwnad (gweler C. Ashton, Gweithiau Iolo Goch, 1896, 344-53). Coed-y-mynydd ym mhlwyf Ysgeifiog, Sir y Fflint, oedd cartref teuluol Ithel. Yr oedd o dras da, a cheir gan Ashton (op. cit., 267, 325-6) fanylion am ei ach a godwyd o Dwnn a Powys Fadog. Hannai, o'r ddwy ochr, o'r teulu a ddaeth yn ddiweddarach i ddwyn y cyfenw Mostyn. Yr oedd gan ei dad, Rhotpert ap Iorwerth ap Rhirid, frawd, sef Madog neu ' Matthew de Englefield ', a oedd yn esgob Bangor, 1327-57 (Browne Willis, Bangor, 74-5; Le Neve, Fasti, i, 99). Yr oedd ei fam, Adles, yn gyfnither i Ddafydd ap Bleddyn, esgob Llanelwy. Cyfeirir at Ithel fel B.C.L., mewn un cofnod, ond ni wyddys ddim amdano cyn 1357 pan etholodd cabidwl Bangor ef yn esgob i ddilyn ei ewythr. Gwrthododd y pab gadarnhau'r etholiad, a gŵr arall a benodwyd. Yr oedd Ithel yn ganon ym Mangor ac yn dal rhan o fywoliaeth Llanynys yn nyffryn Clwyd. Yn 1375 danfonodd gais at y pab am ganoniaeth yn Llanelwy i'w dal gyda'i swyddi ym Mangor, a bu'r cais yn llwyddiannus (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, i, 247). Yn yr un flwyddyn disgrifir ef fel archddiacon Llanelwy (Le Neve, i, 84). Gan fod olynydd iddo yn ymddangos yn 1382, hwyrach mai yn y flwyddyn honno y bu farw, er fod Pennant (Whiteford and Holywell, 119, 308) yn dweud ei fod wedi byw hyd 1393. Dywedir iddo gael ei gladdu yn Ninas Basing (Basingwerk). Cyfeiria Iolo Goch ato fel 'archddiacon deugor' (archddiacon a berthynai i ddau gabidwl), a dywed i'r noddwr a'r bardd fod yn ddisgyblion i'r un athro pan yn ieuanc. Daeth dibyniaeth Iolo ar Ithel yn beth adnabyddus iawn ymysg y beirdd, a chyfeiria Tudur Aled ato deirgwaith (G.T.A., i, 115 a 182, ii, 469). Gweler hefyd ' Kywydd Barnad Ithel ap Rotbert ' gan Saunders Lewis yn Ysgrifau Beirniadol, III, 1967.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.