Roedd Rhydderch yn fab i Ieuan Llwyd ab Ieuan ap Gruffudd Foel o Lyn Aeron ger Llangeitho ac Angharad Hael merch Rhisiart ab Einion o Fuellt, ac yn ddisgynnydd o linach frenhinol Ceredigion a thrwy ei fam-gu a'i orhenfam o Rys ap Gruffydd (bu farw 1197), Arglwydd Deheubarth a phen-noddwr Abaty Ystrad Fflur. Roedd y teulu yn noddwyr blaenllaw i'r beirdd, ac fe gomisiynodd Gruffudd ac Efa, plant Maredudd ab Owain (bu farw 1265), gorwyr Rhys ap Gruffudd a gorhendaid Rhydderch, gyfieithiadau Cymraeg o dri thestun rhyddiaith crefyddol a seciwlar o Ladin a Hen Ffrangeg, testunau a gopïwyd yn ddiweddarach yn Llyfr Gwyn Rhydderch . Ymddengys fod Ieuan Llwyd, ei fab Rhydderch, ac efallai ei ŵyr Ieuan ap Rhydderch, hefyd yn berchen ar Lawysgrif Hendregadredd , casgliad amhrisiadwy o waith Beirdd y Tywysogion yr ysgrifennwyd y rhan fwyaf ohono yn Ystrad Fflur tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ar ddeg. Y mae ynddi chwe cherdd i Faredudd ab Owain gan Y Prydydd Bychan, dwy awdl gan Lywelyn Brydydd Hoddnant i Ieuan ap Gruffudd Foel a'i wraig Ellylw (neu Elliw), dwy gerdd gan Hillyn i Ieuan Llwyd (ac englynion dienw eraill i ryw Ieuan amhenodol), ac awdl farwnad i'w wraig Angharad gan Ddafydd ap Gwilym.
Roedd Rhydderch yn hyddysg yng Nghyfraith Hywel Dda, a chyflawnodd swyddogaeth dosbarthwr neu legis peritus rhwng 1380 a 1392 yn gwrando apeliadau ac yn adfarnu camfarnau, gyda gwaith cyfreithiol arall. Gyda'i wybodaeth am y gyfraith Seisnig hefyd, gweithredodd fel cwnstabl a bedel Mabwynion ac fel ystiward a dirprwy ynad Ceredigion. Mae'n debygol y medrai Rhydderch bob un o'r pedair iaith a ddefnyddid yn llysoedd y cyfnod: Cymraeg, Lladin, Saesneg, a Ffrangeg. Yn ei farwnad i Rydderch dywed Gruffudd Llwyd ei fod yn cyflwyno 'cyfraith trwy bob iaith o'i ben', ac fe'i disgrifir gan Ddafydd ap Gwilym fel 'cyweithas ieithydd', a chan Ddafydd y Coed fel 'pab geirserch pob gorsedd'.
Daw llawer o'n gwybodaeth am gymeriad Rhydderch a'i yrfa o'r cerddi a ganwyd iddo. Efallai mor gynnar â'r 1340au canodd Dafydd ap Gwilym ffug-farwnad iddo yn dathlu ei gyfeillgarwch agos â'i gyfyrder Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ap Llywelyn Gaplan, a cheir awdl i'r ddau gyfaill gan Lywelyn Goch ap Meurig Hen hefyd. Yn ei ddisgrifiad o gylch barddol yn y de-orllewin, sonia Iolo Goch am 'annerch Rhydderch rhoddiad / Ab Ieuan Llwyd', a diau i Iolo ganu cerddi eraill iddo nas diogelwyd. Mae'r awdl iddo gan Ddafydd y Coed yn ei gyffelybu i Selyf oherwydd ei ddoethineb, a hefyd i gymeriadau chwedlonol fel Arthur, Cai, Caw, Garwy Hir, Meirion, Bedwyr, Llŷr, Geraint, a'r arwr Ffrengig Rholant, gan adlewyrchu diddordeb Rhydderch yn y rhyddiaith Gymraeg a gedwir yn y llawysgrif enwog sy'n dwyn ei enw.
Tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg, comisiynodd Rhydderch ysgrifenyddion Ystrad Fflur, mae'n debyg, i greu'r casgliad o chwedlau a thestunau rhyddiaith eraill a adwaenid erbyn yr unfed ganrif a bymtheg, ac efallai yn gynharach, fel Llyfr Gwyn Rhydderch . Ceir ynddo y testunau cyflawn cynharaf o Bedair Cainc y Mabinogi, Culhwch ac Olwen a phum chwedl arall y 'Mabinogion', ynghyd â thestunau crefyddol poblogaidd, bucheddau saint, chwedlau Siarlymaen, peth o'r hengerdd a Thrioedd Ynys Prydain. Cedwir y llawysgrif, mewn dwy ran, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel Peniarth MS 4 a Peniarth MS 5 .
Yn ôl yr achau, cafodd Rhydderch saith mab a phum merch gyda'i ddwy wraig, Margred (neu Angharad) merch Gruffudd Gryg ab Ieuan Fychan a Mawd merch Syr William Clement, arglwydd Tregaron, ac un mab gordderch, Guto, yn ogystal. Yn ôl Bartrum (Cydifor ap Gweithfoed 3) a Lewys Dwnn (t. 45), mab Rhydderch a Mawd oedd y prydydd Ieuan ap Rhydderch, ond mewn lle arall dywed Dwnn (t. 28) mai Annes merch Gwilym ap Ffylib o Forgannwg 'a briododd Rydderch ab Ieuan Lloyd, Esgwier, a mam Ieuan ap Rydderch y Prydydd oedd hono.' Efallai fod trydedd briodas, felly.
Preswyliodd Ieuan ap Gruffudd Foel, Ieuan Llwyd, a Rhydderch mewn tŷ o'r enw Glyn Aeron yng nghyffiniau cymydau Mabwynion a Phennardd, tua deng milltir o Abaty Ystrad Fflur, lle claddwyd mwy na deuddeg o'u cyndeidiau. Nid yw'r lleoliad manwl yn hysbys, ond mae'n bosibl bod Glyn Aeron yn agos i Lyn-ucha neu Lyn-isa ger Llangeitho. Yn ddiweddarach bu'r teulu'n byw ym Mharcrhydderch. Yr oedd tŷ ôl-ganoloesol o'r enw hwnnw yn sefyll milltir a hanner i'r de-orllewin o Langeitho yn yr 1890au, lle mae fferm Parc Rhydderch heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-02-12
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.