IEUAN ap RHYDDERCH ap IEUAN LLWYD (fl. 1430-70), uchelwr a bardd o Geredigion;

Enw: Ieuan Ap Rhydderch Ap Ieuan Llwyd
Rhiant: Anne ferch Gwilym ap Phylip ab Elidir
Rhiant: Rhydderch ap Ieuan Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: uchelwr a bardd
Place: Geredigion
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: David Jenkins

mab Rhydderch ap Ieuan Llwyd o Barc Rhydderch ym mhlwyf Llanbadarn Odyn, gŵr cyfoethog a ddaliai swydd o dan y brenin yng Ngheredigion yn 1387. Dywedir yn Dwnn, i, 28, mai mam ‘Ieuan ap Rhydderch ab Ieuan Llwyd y prydydd ' oedd Annes, ferch Gwilym ap Phylip ab Elidir. Eithr yn Dwnn, i, 45, 85 dywedir mai dwywaith y priododd Rhydderch ab Ieuan Llwyd, sef (1) â Marged ferch Gruffydd Gryg ab Ieuan Vychan ab Ieuan ap Rhys ap Llawdden, a (2) â Mawd ferch Syr William Clement, arglwydd Tregaron. Anodd yw penderfynu ai rhyw Rydderch ab Ieuan Llwyd arall oedd tad y bardd, neu a briododd efe deirgwaith. Cysylltir Ieuan â dwy ardal yn sir Aberteifi, eithr â Genau'r Glyn yn hytrach na Glyn Aeron y cysylltir ef yn y llawysgrifau cynharaf. Er hynny, y mae'n bosibl ei eni yng Nglyn Aeron, ac iddo dreulio rhan olaf ei oes yng Ngenau'r Glyn, oherwydd y mae'n hysbys i rai o'i ddisgynyddion fyw yn y cwmwd hwnnw, a changen o'r teulu yw Prysiaid Gogerddan. Cyfoeswr Ieuan ap Rhydderch oedd Rhys Lleision (fl. 1441-61). Canodd Ieuan ap Rhydderch gywydd brud yn ymdrin â chyfnod Rhyfel y Rhosynnau. Dengys hwn ei fod yn hysbys yn naroganau Taliesin, y ddau Fyrddin, a'r rhai a geir yn ‘Llyfr Coch Hergest.' Ymffrostia iddo ddarllen ‘bob iawn gronigl,' a diau ei fod yn dra chyfarwydd â ‘Llyfr Gwyn Rhydderch ' a bioedd ei dad. Gwyddai am waith beirdd y tywysogion, fel y dengys ei gywydd ‘Y Fost,' a luniwyd ar batrwm ‘Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd.’ Oddi wrth y cywydd hwn gellir barnu iddo gael addysg yn un o'r prifysgolion — y tebygrwydd yw mai Rhydychen — ac awgryma rhai cyfeiriadau sydd ganddo at ei astudiaeth iddo raddio'n B.A., ac M.A., a hwyrach B.C.L. Yn Llanst. MS. 155, a ysgrifennwyd yn 1583, y mae cyfeiriad at Ieuan ap Rhydderch fel doctor o'r gyfraith.' Sonia hefyd fod llawer o gampau corfforol yn perthyn iddo, ac fel y treuliodd ei oes mewn cyfoeth, a dal swyddi lawer. Cyfansoddodd awdl i Fair — lle ceir Lladin a Chymraeg yn gymysg wedi eu plethu ar gynghanedd. Yn B.M. Add. MS. 14866 (45) priodolir iddo awdl Saesneg i Fair Wyry, ac ef hefyd a droes i'r Gymraeg yr emyn Lladin, ‘Te Deum Laudamus.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/