ARTHUR, (? yn gynnar yn y 6ed ganrif) un o arwyr y Brytaniaid yn erbyn eu gelynion, yr hwn a ddaeth gydag amser yn brif ffigur cylch y chwedlau Arthuraidd

Enw: Arthur
Priod: Gwenhwyfar
Plentyn: Anir
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o arwyr y Brytaniaid yn erbyn eu gelynion, yr hwn a ddaeth gydag amser yn brif ffigur cylch y chwedlau Arthuraidd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Milwrol
Awdur: Thomas Jones

Ni wyddys dim yn sicr amdano fel cymeriad hanesyddol, er na ellir bellach wadu ei fodolaeth, na'i esbonio, fel y gwnaeth John Rhŷs ac eraill, fel ffigur chwedlonol pur.

Nis enwir gan Gildas c. 540 wrth gyfeirio at fuddugoliaeth y Brytaniaid ym ' Mynydd Baddon ' ('Mons Badonicus'), brwydr y dywed Nennius, disgybl Elfoddw (bu farw 809), i Arthur fod yn fuddugol ynddi ac a gofnodir yn Ann. C. s.a. 518. Yn Ann. C. hefyd, s.a. 539, cofnodir brwydr Camlan, 'yr hon y syrthiodd Arthur a Medrod ynddi.' Ymddengys mai'r cofnod olaf hwn sy'n ein dwyn agosaf at Arthur hanes.

Oherwydd ei enw (? Ll. Artorius) a chyflwr pethau ym Mhrydain yn niwedd y 5ed ganrif a dechrau'r 6ed, nid annhebyg ei fod o deulu a ddaethai o dan ddylanwadau Rhufeinig a'i fod yn dal rhyw swydd filwrol yn y cynlluniau i amddiffyn yr ynys wedi ymadawiad milwyr Rhufain. Erbyn dyddiau Nennius tyfasai Arthur yn ffigur arwrol ac amryw chwedlau llên-gwerin wedi'u cysylltu â'i enw. Yn Hist. Britt. disgrifir ef fel ' tywysog ymladdau ' ('dux bellorum') a orchfygodd y Saeson mewn deuddeg brwydr; ac yn yr adran ' Rhyfeddodau Prydain ' sonnir am ei fab ' Anir ' a'i gi ' Cafall,' y bu'n hela'r Twrch Trwyth ag ef - stori a adroddir yn llawnach yng ' Nghulhwch ac Olwen.' Ffigur chwedlonol yw hefyd yn y cyfeiriadau ato mewn cerddi Cymraeg gweddol gynnar; o'r rhain y pwysicaf yw ' Preiddeu Annwfn ' (Facsimile and Text of the Book of Taliesin, 54), yr englyn (The Black Book of Carmarthen, 67), a ddywed mai 'rhyfeddod hyd Ddydd y Farn fydd bedd i Arthur' - tyst i'r gred fod Arthur heb farw - a'r ymddiddan rhwng Arthur a'r porthor Glewlwyd Gafaelfawr (The Black Book of Carmarthen, 94), lle yr enwir llawer o'r arwyr adnabyddus (Cei, Bedwyr, etc.), a gysylltir ag Arthur yn y chwedlau Cymreig a'r corff cyffredinol o straeon Arthuraidd. Yng ' Nghulhwch ac Olwen,' lle y'i gelwir yn 'ben-teyrnedd yr ynys hon,' ac ym ' Mreuddwyd Rhonabwy,' lle y mae'n ' ymherodr ' - teitl sy'n awgrymu dylanwad ' Brut ' Sieffre o Fynwy - y mae ei lys yng Nghelli-wig yng Nghernyw.

Yn y ' Brut ' (Historia Regum Britanniae) c. 1136 rhoir lle amlwg i 'hanes' Arthur; fe'i coronir gan yr archesgob Dyfrig, sefydla lys yng Nghaerllion-ar-Wysg, gorchfyga'r Saeson mewn cyfres o frwydrau, ac wedyn troi yn erbyn y Pictiaid a'r Sgotiaid. Ar ôl heddychu'r ynys prioda Wenhwyfar ac wedyn fe goncra Iwerddon ac Islont a derbyn gwrogaeth brenhinoedd Gotlond ac Ynysoedd Orc. Ceir heddwch am ddeuddeng mlynedd a daw llys Arthur yn gyrchfan i bob milwr dewr. Y mae'n ymroi i goncro Ewrop i gyd ac yn gwrthod talu teyrnged i Rufain. Pan yw wedi trechu Gâl ac yn paratoi i ymosod ar yr Eidal fe glyw am frad Medrod ym Mhrydain, gorfydd arno droi'n ôl ac fe'i 'clwyfir yn angheuol' mewn brwydr ar afon Camel ('Cambula') yng Nghernyw a'i gludo i Ynys Afallon i wella ei glwyfau. Sail llawer o'r 'hanes' gan Sieffre yw cofnodion Hist. Britt., ond fe'u helaethwyd o bob math o ffynonellau eraill, mewn llyfr ac ar lafar, ac o ddychymyg.

Mawr fu dylanwad ' Brut ' Sieffre yn lledaeniad a datblygiad y chwedlau am Arthur er nad ef oedd unig ffynhonnell ysgrifenwyr diweddarach; cafwyd amryw gyfieithiadau Cymraeg ohono a seiliwyd arno lu o 'Frutiau' - mewn rhyddiaith ac ar fydr - yn yr ieithoedd cyffredin. Amheuwyd dilysrwydd stori Sieffre gan Wiliam o Newburgh a Gerallt Gymro, ond eithriadau ydynt hwy. O destun i destun (gan Wace, Chrétien de Troyes, awduron dienw Lancelot a ' Mort Artu,' Thomas Malory, etc.) datblygodd llys Arthur, gyda Chymdeithas y Ford Gron, yn ddrych o sifalri'r Canol Oesoedd ac yn fan cychwyn pob antur; a chymhlethwyd y chwedlau fwyfwy, yn arbennig drwy eu cysylltu â'r straeon am y Greal Sanctaidd. Yn y pen draw troes Arthur o fod yn arwr y Brytaniaid i fod yn arwr y Prydeinwyr, a'r chwedlau amdano yn gyfuniad cywrain o draddodiadau llafar am y brenin clwyfedig a ddychwelai ryw ddydd i ryddhau ei gydwladwyr (ac y mae tystiolaeth gyfoes i'r gred hon yng Nghymru, Cernyw, a Llydaw yn y 12fed ganrif), cofnodion ffug-hanesyddol a chreadigaethau dychymyg un awdur ar ôl y llall. Felly y lluniwyd un o'r cylchoedd rhamant mwyaf toreithiog a fu erioed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.