ymddengys yr enw yn y ffurfiau ' Elbodugus ' ac ' Elbodg ' (Harleian MS. 3859), ac ' Elvodugus ' (Nennius), sef ' Elbodu(g) ' mewn hen Gymraeg. Y mae'n enwog am iddo fabwysiadu, yn y flwyddyn 768 (Harleian MS. 3859), y dull Rhufeinig o bennu Sul y Pasg, dull yr oedd yr Eglwys Gymreig wedi ymwrthod ag ef yn 602-3. Amrywia'r traddodiadau ynghylch tras a hanes Elfodd (gweler The Lives of the British Saints, iii, 431), ond cysyllta'r mwyafrif ef â chlas Caer Gybi. Dywedir (The Lives of the British Saints) iddo gael ei ethol yn ' esgob Bangor ' yn 755, ond gorffwys hyn ar dystiolaeth ddiweddar, ac anniogel iawn, sef llawysgrifau ' Iolo Morganwg.' Gan y croniclydd Nennius, disgybl, meddai ef ei hunan, i Elfodd ('Elvodugi discipulus'), fe'i gelwir yn 'esgob o'r sancteiddiaf' ('episcoporum sanctissimus'), heb ei gysylltu ag unrhyw fan neilltuol; ac yn y cofnod o'i farwolaeth yn 809 (Harleian MS. 3859), gelwir ef yn 'brif esgob yng ngwlad Gwynedd' ('archiepiscopus Guenedote regione' [ sic ]), ymadrodd nad oedd, yn y cyfnod hwnnw yng Nghymru, yn cyfleu unrhyw syniad o awdurdod 'archesgobol' yn ein hystyr ni i'r gair.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.