ANEIRIN, bardd o fri yn hanner olaf y 6ed ganrif.

Enw: Aneirin
Rhiant: Dwywei ferch Leennawg
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd o fri yn hanner olaf y 6ed ganrif.
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ifor Williams

Yn ôl ‘Historia Brittonum’ Nennius (tua 796) bu pump o feirdd yn enwog mewn barddoniaeth Gymraeg, sef Talhaearn Tad Awen, Neirin, Taliesin, Blwchfardd, Cian, adeg y brwydro yn erbyn Ida, brenin Northumbria (547-559), a'i feibion hefyd, mae'n debyg. Felly ‘Neirin’ yw ffurf hynaf yr enw, ond erbyn 1200 tyfasai ‘a’ o flaen yr ‘n’ ar ei ddechrau, a'i droi'n ‘Aneirin,’ cf. y modd yr aeth ‘nadredd’ yn ‘anadredd.’ Erbyn 1632 cawn Dr. Davies yn y Geiriadur Dyblyg yn arfer ‘Aneirin’ amdano, ffurf a ffynnodd hyd ein dyddiau ni, er mor ddi-sail ydyw.

Nid oes chwaith ronyn o sail i'r dyb a goleddwyd gan rai fod Aneirin o'i gam-sgrifennu'n Aneirin yn cyfateb o ran ystyr i enw'r Gildas a ffrewyllodd frenhinoedd y Brython ac a ddilornodd feirdd Maelgwn; fwy na thros gredu mai'r un un oedd y bardd a'r mynach. Gwahanol hollol yw'r ddau o ran eu hanian; nid yn yr un hanner o'r ganrif y blodeuent, a bu eu marw mor wahanol â'u byw. Anghredadwy hollol yw'r syniad y buasai'r un o'r ddau yn dewis llysenw Saesneg wrth gyfansoddi yn Lladin, petasai modd profi mai ‘gild' — ‘gold’ yw bôn yr enw Gildas.

Yn ‘Llyfr Aneirin,’ llawysgrif a ysgrifennwyd tua 1250, ceir cân hir o gant a thri o benillion a elwir ‘odlau’ i osgordd Mynyddawg Mwynfawr, arglwydd Dineiddyn, neu Ysgor Eiddyn, sef Edinburgh, a elwir fyth yn Dunedin gan wyr yr Alban. Gelwir y cwbl ‘Y Gododdin’, gan mai'r llwyth hwnnw o'r Brython oedd yn trigo yn nhueddau Edinburgh, ar lan y Forth, sef Manaw Gododdin. Hwy yw ‘Votadinoi’ Ptolemi yn yr ail ganrif. Testun y gân yw cyrch gosgordd neu deulu Mynyddawg o Ddineiddyn i Gatraeth (Catterick neu Richmond yn swydd Efrog) i geisio adennill y lle o afael y Saeson. Trichant oedd nifer yr osgordd; lladdwyd hwy oll ond un. Nid yw Aneirin yn disgrifio'r frwydr; yn hytrach disgrifio unigolion, arwr ar ôl arwr, pob un â'i nodweddion ei hun, ond pob un yn ddewr a ffyddlon i'w arglwydd. Talasant eu medd.

Cymysgwyd â'r gerdd hon odlau eraill, rai yn llawer diweddarach, ac yn un o'r rhain (ll. 640-55) ceir bardd yn defnyddio'r ‘Gododdin’ mewn cerdd ymryson; gofyn am wobr am ei hadrodd, a ‘boed i warchan mab Dwywei ennill.’ Yna â ymlaen. ‘Er pan laddwyd ac er pan aeth daear ar Aneirin, mae cân bellach wedi ysgar â'r Gododdin.’ Os yw ‘gwarchan mab Dwywei,’ neu gân mab Dwywei, yn ddisgrifiad o'r Gododdin, fel y gellir tybied, yna wele dystiolaeth gynnar i ach Aneirin. Mab Dwywei ydoedd. Gwyddys am ferch o'r enw yn yr hen achau; mam Deinyoel Sant oedd Dwywei ferch Leennawg. Yn ôl Nennius yr oedd ei brawd Gwallawg yn cydryfela ag Urien yn erbyn Hussa fab Ida (585-592). Yn ôl yr ‘Annales’ bu Deinyoel Sant farw yn 584. Tybed mai brawd ieuangach iddo ef oedd Aneirin, bardd y Gododdin ? Gall hynny fod, ond ynfyd fuasai dal nad oedd Dwywei arall yn bod yn y cyfnod hwnnw; gweler Pen. MS. 75 (51), ‘Dwywei verch Degid Voel.’ O'r gerdd ei hun gwelir fod Aneirin yn gyfaill a châr i rai o osgordd Mynyddawg. Chwanegiad diweddarach yw'r cyfeiriad ato fel un o bedwar a ddihangodd yn fyw o'r cyrch i Gatraeth, ond gellir derbyn yr awdl a ddywed ei achub o garchar yn nhir y gelyn trwy wrhydri fab Llywarch.

Yn ‘Llyfr Aneirin’ cadwyd tri gwarchan hen a briodolir iddo, heblaw'r Gododdin. Mewn llawysgrifau diweddarach ceir ‘Englynion y Misoedd’ a honnir ddarfod eu canu ganddo. Nid yw eu hieithwedd o blaid hynny.

Yn y Trioedd rhestrir lladd Aneirin gan ‘Heiddyn’ (‘Heiden,’ ‘Eidyn’) ap Enygan (Euengat) yn un o'r Tair Anfad Gyflafan, ac yn un o'r Tair Anfad Fwyallawd. Gelwir ef Aneirin Gwawdrydd, Mechdeyrn Beirdd, h.y. eu pen brenin, cf. Taliesin Ben Beirdd. Addurn oes arall yw hynny.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/