DEINIOL (bu farw 584), sant, sylfaenydd Bangor ac esgob cyntaf Gwynedd

Enw: Deiniol
Dyddiad marw: 584
Rhiant: Dwywei ferch Leennawg
Rhiant: Dunawd Bwr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant, sylfaenydd Bangor ac esgob cyntaf Gwynedd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Williams James

Mab Dunawd fab Pabo Post Prydyn, o'r un llinach frenhinol ag Urien Rheged - nid Dwyai ferch Gwallog ab Lleenog oedd ei fam, merch cyfyrder iddo ydoedd. Gan fod Deiniol a Maelgwn Gwynedd o gydoedran, felly hefyd yr oedd Pabo ei daid a meibion Cunedda Wledig; rhaid mai gyda hwy y daeth Pabo i Gymru, nid oherwydd colli meddiannau ond er ennill mwy: yn ôl yr enwau lleol, trigai ei dylwyth ym Môn (Llanbabo), Arfon (Bangor), a dyffryn Clwyd (Llanelwy) - hyn oedd y rheswm i Gynfarch ac Urien Rheged ymsefydlu yno rhwng 550 a 574. Teyrnasiad Maelgwn Gwynedd oedd oes euraidd crefydd Gwynedd-uwch-Conwy - oes Cadfan, Seiriol, Cybi, ac eraill: dengys achau'r saint mai yn yr oes nesaf, ar ôl y Fad Felen (547), y datblygodd crefydd Gwynedd-is-Conwy : felly, Bangor yn Arfon ydoedd sefydliad cyntaf Deiniol; merch i Fangor oedd Bangor-is-Coed. Os cywir disgrifiad Gildas o Illtud - 'praeceptorem paene totius Britanniae magistrum elegantem' (36) - yn Llan Illtud, a chyda Maelgwn Gwynedd, yr addysgwyd Deiniol : ni wyddys pwy a'i penododd ac a'i cysegrodd yn esgob; ond yn ôl trefn Buchedd Samson o Dol, esgobion y Brytaniaid a wnaeth hynny, gan adael iddo ddewis ei faes esgobol ei hun - sef Gwynedd yn ddiau. Os felly, dichon mai cywir ydyw traddodiad ' Llyfr Llandaf ' yn priodoli hyn i Ddyfrig : rhy ieuanc ydoedd Dewi ar y pryd. Nid oes dim i rwystro'r gred ddarfod i Ddeiniol fyned i synod Brefi. Bu farw yn 584 yn ô yr ' Annales Cambriae,' er y dichon fod hwn, fel dyddiad marw Dewi a Chyndeyrn, yn 12 mlwydd yn rhy hwyr; os felly 572 ydyw'r flwyddyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.