CADFAN (fl. 550?), sant

Enw: Cadfan
Rhiant: Eneas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Dywed traddodiad ei fod yn fab i Eneas y Llydawr ac iddo groesi o Lydaw i Gymru gyda mynachod eraill, llawer ohonynt o'r un tylwyth ag ef ei hun ac yn amcanu gweithredu fel cenhadon. Cadfan ydyw nawddsant Llangadfan yn Sir Drefaldwyn; ef hefyd a gaiff y clod am ddechrau'r sefydliad mynachaidd yn Ynys Enlli. Eithr ei waith pennaf oedd sefydlu'r 'clas' yn Nhywyn, Meirionnydd; yr oedd i'r sefydliad hwn abad mor ddiweddar â 1147, ac yr oedd yno dwr o glerigwyr yn 1291. Cenir am gyfoeth a breiniau'r 'clas' tua'r flwyddyn 1240 gan Lywelyn Fardd ('Canu i Gadfan'); Tywyn oedd mam-eglwys pob rhan o Feirionnydd-is-Dysynni.

Er cymaint o sôn a fu amdano ac er gwaethaf ei enw presennol nid oes dim cysylltiad rhwng 'Maen Sant Cadfan' a'r sant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.