Nid hawdd sefydlu ei ganon na'i ddyddiadau. Yn Cerdd Dafod ceir c. 1185 - 1220, ond rhydd J. Lloyd-Jones c. 1155 - 1200. Efallai fod dau Lywelyn Fardd, y naill yn y 12fed ganrif, a'r llall yn y 13eg, ac mai dyna pam y mae'r 'Llyfr Coch' yn rhoi 'Lywelyn Fardd fab Cywryd' wrth un gerdd. Yr hynaf oedd hwnnw, a gwr o Feirionnydd ond odid. Ym marwnad Cedifor sonia amdano'i hun fel milwr i Fadog ap Maredudd (bu farw 1160), ac yn ei ganu i Owain Fychan fab Madog (bu farw 1187) dywaid ei fod yn hyn nag ef. Yn ei arwyrain i Owain Gwynedd, dywed 'Mi fûm gennych ar dir Deheubarth,' ond ni bu Owain yn ymladd yn y De wedi 1138. Yn ôl y ' Llyfr Coch ' dyma'r bardd a ganodd farwnad teulu Owain Gwynedd, ond i Gynddelw y priodolir hi yn y The Myvyrian Archaiology of Wales . Ceir gan Lywelyn Fardd amryw ddarnau crefyddol; y pwysicaf yw'r 'Canu i Gadfan,' sef molawd i eglwys Tywyn sy'n ddisgrifiad gwych o'r bywyd eglwysig yno yn ystod abadaeth Morfrân, gwr a oedd yn fyw yn 1147.
Ceir yn Hendreg. MS. a'r The Myvyrian Archaiology of Wales awdl fer i Lywelyn ap Iorwerth gan 'Lywelyn Fardd,' lle gelwir y tywysog yn ' eryr Clwyd.' Bychan clod fuasai hynny iddo yn y blynyddoedd wedi 1206. Y mae'r gerdd yn darllen fel gwaith bardd ifanc, a ' huawdl was ' y geilw'r bardd ei hun. Awgrymir mai'r ail Llywelyn Fardd oedd hwn ar gychwyn ei yrfa, ac iddo fyw i ganu hefyd i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, tywysog a oedd yn fyw mor ddiweddar â 1274.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.