Ymddengys yn yr achrestrau Cymreig fel Cyndeyrn, mab Owain ab Urien, ac wyr Urien Rheged. Y mae Owain yn gymeriad pwysig yn y rhamantau yn Llyfr Coch Hergest, ac ymddengys ef a'i dad, Urien, yn y farddoniaeth Gymraeg gynnar a edrydd hanes brwydrau tywysogion Brythonig y Gogledd yn erbyn Hussa, mab Ida - gweler yr erthyglau ar Lywarch Hen a Thaliesin. Cysylltir y teulu, fodd bynnag, â Strathclyde, ac nid â Chymru yn ystyr bresennol y gair. Unig hawl S. Kentigern i'w gynnwys yn y gyfrol hon yw'r traddodiad amheus iawn a'i gwna'n sylfaenydd mynachdy ac esgobaeth Llanelwy. Ar y mater hwn gweler yr erthygl ar Asaph. Bu farw 13 Ion., yn ôl pob tebyg, yn y flwyddyn 603. Rhydd Ann.C., y flwyddyn 612, dyddiad llai tebygol.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/