LLYWARCH HEN, tywysog Brythonaidd o'r 6ed ganrif, ac arwr chwedloniaeth Gymreig o'r 9fed ganrif

Enw: Llywarch Hen
Rhiant: Gwawr ferch Brachan
Rhiant: Elidyr Lledanwyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog Brythonaidd o'r 6ed ganrif, ac arwr chwedloniaeth Gymreig o'r 9fed ganrif
Maes gweithgaredd: Milwrol; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: David Myrddin Lloyd

Unig ffynhonnell ein gwybodaeth am y Llywarch hanesyddol yw'r hen achau, sef 'Bonedd Gwŷr y Gogledd' - Peniarth MS 45 , B.M. Harl. MS. 3859 (er nad yw hon ddim yn enwi Llywarch, sonnir ynddi am berthnasau cyfoes iddo yn yr 'Achau'r Saeson' a geir ynglŷn wrth destun Nennius), B.M. Cottonian, Vesp. A. xiv a Domitian 1, 'Bonedd y Saint,' ac achau tywysogion Gwynedd fel y ceir yn 'Buchedd Gruffudd ap Cynan.' Yn ôl y rhain yr oedd Llywarch o hil Coel Gotebauc, ei dad oedd Elidyr Lledanwyn, a'i fam oedd Gwawr, ferch Brachan. Yr oedd yn gefnder o du ei dad ac o du ei fam i Urien Rheged a ymladdai yn erbyn meibion Ida yn ail hanner y 6ed ganrif, a thrwy ei ddisgynyddion, Merfyn Frych a Rhodri Mawr, yr oedd tywysogion Gwynedd (a thaleithiau eraill) yn tarddu ohono.

Tua chanol y 9fed ganrif, mewn cyfnod o ddarostyngiad ar Bowys, lluniwyd gan gyfarwydd o'r dalaith honno gyfres o chwedlau amdano ef a'i feibion. Cynhwysai'r rhain gyfresi o englynion, a'r rheini'n unig sydd ar gael heddiw, a hynny oblegid eu cynnwys yn Llyfr Coch Hergest, col. 1026-49 (ac ambell un mewn llawysgrifau cynharach). Er i'r cyfarwydd lunio ei storîau o gwmpas enwau Llywarch a'i wir gyfoeswyr o'r hen Ogledd fel y ceir hwy yn yr hen achau, lleolir y chwedlau dramatig ar ffiniau Powys. Rhoes hyn fod i draddodiad cyndyn mai bardd oedd Llywarch, a'i fod yn hanfod o Bowys. O'r rhamantau hyn, hefyd, y tardd achau ei feibion fel y ceir hwynt yn Dwnn (Visitations) a'u cyswllt â phrif deuluoedd Penllyn a'r wlad o'i chwmpas, a hefyd y sôn am ei gladdu yn Llanfor, a'i gysylltu â hen olion yno ac mewn mannau eraill yng Nghymru.

Syr Ifor Williams a lwyddodd i ddatrys yr hanes oddi wrth y chwedl, a seilir y nodyn hwn yn llwyr ar ei waith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.