Cywiriadau

FITZ WARIN, arglwyddi Whittington ac Alderbury yn Sir Amwythig, ac Alveston yn sir Gaerloyw.

Bu'r tiroedd yn Sir Amwythig yn achos anghydfod rhwng y Saeson a'r Cymry hyd gwymp Gwynedd ar law Edward I. Tua diwedd y 12fed ganrif perthynai Maelor Saesneg i Roger de Powys a'i frawd Jonas, ond arglwydd y wlad o gwmpas Whittington oedd FULK FITZ WARIN. Yr oedd gan y Fitz Warin hwn ŵyr o'r un enw ag ef ei hun, a ailfeddiannodd Whittington yn 1204 ar ôl iddo ei ddifreinio dros dro o bob hawl gyfreithiol. Cafodd Llywelyn Fawr gynhorthwy Fulk Fitz Warin pan yn ymladd â'r Saeson yn 1217, ond daeth Fitz Warin i ddealltwriaeth â llywodraeth Harri III erbyn Chwefror 1218. Yn nechrau 1223 enillodd Llywelyn Whittington ac yn 1226 aeth Harri III i Amwythig i drafod helynt Fulk Fitz Warin a'i debyg ymhlith arglwyddi'r gororau. Oherwydd yr elyniaeth rhwng Llywelyn a Fulk trefnwyd oddeutu 1227 i briodi Angharad merch Madog ap Gruffydd â mab Fulk, ond ni bu priodas; nid oes sicrwydd ai gwrthwynebiad Llywelyn a achosodd fethiant y cynllun.

Ar ôl ei fuddugoliaeth yn Lewes ar 14 Mai 1264, ceisiodd Simon de Montfort gynhorthwy Llywelyn ap Gruffydd trwy ganiatáu iddo, ar 22 Mehefin 1265, wasanaeth ffiwdal arglwydd Whittington; yn ôl cytundeb Trefaldwyn, 29 Medi 1267, cysylltwyd y wlad unwaith eto â Chymru.

Cymerodd Fulk Fitz Warin ran flaenllaw yn y rhyfeloedd yn erbyn y Cymry yn niwedd y 13eg ganrif. Siarsiwyd ef i helpu castell y Bere, ger Tywyn, yn 1294, a chafodd aml alwad i gasglu dynion o Sir Amwythig i wasnaethu'r brenin. Daeth i wrthdrawiad â Llywelyn ap Gruffydd yn 1277 o achos tir yn Bauseley, ym Maldwyn, a chyn 25 Chwefror yn y flwyddyn honno priododd Margaret, merch Gruffydd ap Gwenwynwyn a Hawise, ferch John Lestrange. Bu Fulk farw yn 1315 a'i weddw ar 11 Mai 1336.

Bu un WILLIAM FITZ WARIN, a oedd efallai o deulu arglwyddi Whittington, yn flaenllaw yn helyntion Cymreig y flwyddyn 1277; bu'n dyst i gytundeb rhwng Pain de Chaworth a Rhys ap Maredudd, ac yr oedd yn bresennol hefyd adeg cwymp Gruffydd a Chynan, meibion Maredudd ap Owain, Llywelyn eu nai, a Rhys ap Rhys Fychan. Yn y 15fed ganrif cawn hanes un WILLIAM FITZ WARIN, aelod efallai o gangen arall o'r teulu, yn codi gwŷr yng Nghymru i ymosod ar gastell Whittington a'i drechu pan oedd yn nwylo Richard Hankerford, gŵr Elisabeth, chwaer ac etifeddes y Fulk Fitz Warin a fu farw yn 1420.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

FITZ WARIN

Manylion ychwanegol: boddodd FULK IV wrth geisio dianc ar ôl brwydr Lewes, 14 Mai 1264. Daeth y llinach wrywol uniongyrchol i ben yn 1420, pan fu farw yr unfed ar ddeg olynol o'r enw hwnnw. Am y WILLIAM FITZ WARIN o'r 15fed ganrif, ei wir enw oedd Syr William Bourchier; yr oedd yn 'Fitz Warin' yn hawl ei briod Thomasine, ferch ac aeres Elizabeth Hankerford - honno'n chwaer ac etifedd y Fulk XI a fu farw yn 1420 (uchod). Gwelir yn Edward Owen, Catalogue of MSS. relating to Wales in the B.M., iii, 37618, sôn am 'grant' (1450) o diroedd yn Whittington a roddwyd gan y William hwn a'i briod.

Ceir disgrifiad o ' Ramant Foulques Fitz Warin ' yn yr ysgrif yn y D.N.B. Llsgr. (ryddiaith Ffrangeg) o 1320 yw hon, ond y mae'n deillio o lawysgrif goll o ddiwedd y 13 ganrif. Mewn rhan, nid yw ond chwedl, yn adrodd anturiau rhyfeddol yn Ffrainc, Llydaw, Iwerddon, Orkney, Sgandinafia, a gogledd Affrica. Ond gorffwys rhannau helaeth ohoni ar sail hanesyddol, serch iddi gymysgu Fulk II a Fulk III â'i gilydd, ac felly, e.e., wneud Joan (priod Llywelyn Fawr) ferch y brenin John, yn ferch i Harri II. Eto, gwyddai ei hawdur gryn dipyn am hanes a daearyddiaeth gogledd Cymru a'r goror, ac am Gymry fel Owain Gwynedd, Iorwerth Drwyndwn a Llywelyn Fawr, Owain Cyfeiliog a Gwenwynwyn; pan ddywed i Lywelyn Fawr a Fulk ('III ', gellid meddwl) fod yn hogiau gyda'i gilydd yn llys brenin Lloegr, nid yw hynny'n gwbl anghredadwy, ac y mae'r ffrwgwd a adroddir ganddo, rhwng Fulk a'r tywysog John, yn gwbl gydnaws â'r hyn a wyddom am dymer John.

Hyd yn hyn, ni ddarganfuwyd unrhyw fersiwn Gymraeg o'r ' Rhamant ', ond y mae'n eglur fod yng Nghymru gryn gydnabyddiaeth â'r traddodiad llafar y seiliwyd hi arno; oblegid y mae sawl cyfeiriad at ' Syr Ffwg ' neu ' Ffwg ap Gwarin ' gan y beirdd, e.e., Gruffudd ap Maredudd (R.B.H. Poetry, 107, 11. 24-5 - yr awdl i Owain Lawgoch), Iolo Goch, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Tudur Aled; chwilier y mynegion i'r argrr. diweddar ohonynt. Eto dylid nodi nad oes gan y beirdd unrhyw gyfeiriad at gynnwys y rhamant; iddynt hwy, nid yw ' Syr Ffwg ' namyn un o amryw enghreifftiau o'r teip - y milwr penigamp; ac odid nad gofynion cynghanedd yn unig sy'n cyfrif am ystrydebau fel 'Ffwg a'i ffon', h.y., ei waywffon mae'n debyg, neu efallai'r 'pastwn' sydd yn y stori ar dud. 339 argraffiad y ' Rolls Series ' o'r ' Rhamant '.

Gwelir ar dud. 84 Cymru Fu (Isaac Foulkes) 'ddameg' sy'n amrywiad diddorol o stori Ffwg - amrywiad nad ymddengys o gwbl yn y ' Rhamant ' ei hunan. Yn y 'ddameg', enwir Ffwg yn ' Ffowc o Forgannwg ', yn byw yng nghastell Caerdydd, ac yn siryf Morgannwg. Pe diddymid yr atalnod rhwng ' Ffwg ' a ' Morgannwg ' yn y rhes o englynion i Ifor Hael sydd ar dud. 17 Gwaith Dafydd ap Gwilym yn argr. Thomas Parry , gellid o bosibl weled yno gyfeiriad arall at ' Ffowc o Forgannwg '. Gan fod y 'ddameg' yn sôn am frwydrau 'Ffowc' â'r Saraseniaid, y mae'n amlwg mai hwnnw hefyd oedd y Fulk sydd yn y ' Rhamant '.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)

    Ffynonellau

  • Y 'Rhamant', yn y testun a gynhwyswyd yn y gyfrol 'Ralph of Coggeshall' (Rolls Series, 1875)
  • Oxford Dictionary of National Biography
  • Th. M. Chotzen, Recherches sur la poésie de Dafydd ap Gwilym, barde gallois du XIVe siècle ( Amsterdam 1928 ), tt. 100, 104, 106, 140

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.