GRUFFUDD ap MAREDUDD ap DAFYDD (fl. 1352-82), bardd o Fôn

Enw: Gruffudd Ap Maredudd Ap Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Place: Fôn
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: William John Davies

y ceir ei holl waith yn ‘Llyfr Coch Hergest,’ col. 1198-1220 a 1313-36. Digwydd ei enw fel perchen rhan o dair tref welyog yn Nhalybolion, sef Aberalaw, Carneddawr, a Dronwy, a bernir ei fod yn hanu o linach Trahaearn Goch o Lŷn.

Ar wahân i'r ychydig gerddi maswedd ymranna'r ddwy fil a hanner o linellau o'i waith dan dri thestun, sef canu duwiol, mawl a marwnad, a chanu serch. Ond odid nad yw ei awdlau i'r Grog o Gaer, i Dduw ac i Fair, sydd yn gyfrodedd o gywreinwaith, yn enghreifftiau teg o'i ymlyniad wrth y traddodiad barddol mewn testun a mynegiant. Aelodau un teulu a foliennir ac a farwnedir ganddo, sef Tudur Fychan (bu f. 1367), Howel fab Gronwy, Gronwy Fychan (bu f. 1382), a Syr Howel y Fwyall (bu f. tua 1381) a phurion y gweddai ei alw'n fardd teulu Tuduriaid Penmynydd. Nid annhebygol mai ef yw awdur yr awdl anghyffredin yn gwahodd Owain Lawgoch i adennill ei dreftadaeth. Coron ei waith yw'r cerddi serch. Mewn un gerdd cyrch gartref y rhiain yn Nhref Lywarch ar ‘frondoryf varch,’ ac anoga ef i frysio. Y mae nodweddion diffuantrwydd yn ei awdl farwnad odidog i Wenhwyfar o Fôn, a hawdd credu mai ei brofiad gwirioneddol a geir yn y geiriau ‘gwydyn oedd ym hir vyw gwedy.’

Mesurau traddodiadol yr awdl oedd cyfrwng ei fynegiant, ond diamau ei fod yn un o'r rhai cynharaf i wneud defnydd o englynion unodl union a phroest ar ddechrau awdl. Serch iddo gydoesi â beirdd cynnar cyfnod y cywydd, ymgadwodd rhag defnyddio'r mesur hwnnw. Nodwedd arbennig ei waith yw ceinder medrus synhwyrol wedi ei weithio'n gelfydd i batrwm mor gywrain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/