IFOR HAEL

Enw: Ifor Hael
Priod: Nest wraig Ifor Hael
Plentyn: Tomas ab Ifor Hael
Rhiant: Angharad ferch Morgan ap Maredudd
Rhiant: Llywelyn ab Ifor
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Dyngarwch; Barddoniaeth
Awdur: Ifor Williams

Dyma'r enw a roes Dafydd ap Gwilym i'w brif noddwr Ifor ap Llywelyn o Fasaleg, sir Fynwy. Er ein bod wedi cynefino â galw'r lle yn 'Maesaleg' mae profion pendant mai 'Bassalec,' 'Basselec,' oedd yn y 12fed ganrif (gweler 'Llyfr Llandaf,' 273, 319, 329, 333) a chyn hynny. Ceir ach Ifor yn Peniarth MS 133 (R. i, 833) (180), 'tredegyr ymassalec,' 181, 'Gwern y klepa ymassalec,' sef 'ym Masaleg,' ac olrheinir y Phylip oedd yno yn 1550 yn ôl i ' Tomas ap Ivor hael ap Llywelyn ap Ivor.' Enwir y tri brawd, Morgan, Phylip, ac Ifor Hael yn Peniarth MS 176 , Peniarth MS 206 , (R. i, 977); gweler hefyd NLW MS 3033B (39-40); Peniarth MS 140 (74-6). I gael yr ach yn gyflawn gweler Dwnn, i, 218. Eu mam oedd Angharad ferch Morgan ap Meredudd, Arglwydd 'Tredegar' (sef y 'Tredegyr' uchod). Ei hail wr oedd Dafydd ap Llywelyn o Rydodyn; gweler Peniarth MS 176 (399), lle disgrifir Morgan ap Dafydd fel 'brawd vnvam ac ifor hael.'

Bu tad Angharad farw tua 1331 (J. H. Davies, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 1907, 68), ac mewn holiad cyfreithiol ar yr achlysur, tyngwyd fod ei etifedd Angharad yn 32 oed; yn 1333, tyngwyd mai 40 oed oedd hi! Ganed hi felly un ai yn 1293 neu 1299, a gellir rhoi geni Ifor tua 1313 neu 1319, y fan gyntaf. Byddai yn ei flodau oddeutu 1340-60. Gwyddys i'w frawd hynaf, Morgan, farw cyn 1384 (Clark, Limbus Patrum, 310), ond nid oes sicrwydd am adeg marw Ifor na Nest ei wraig. Rhodder tua 1380 fel amcan yn unig. Yn argraffiad Pughe o weithiau Dafydd ap Gwilym, 1789, printiwyd pedwar cywydd i Ifor Hael a thair awdl iddo, un ohonynt yn farwnad iddo ef a Nest. Nid yw awduriaeth yr awdl hon, fodd bynnag, y tu hwnt i amheuaeth, canys barnai Lewis Glyn Cothi yn y 15fed ganrif i Ddafydd farw o flaen ei noddwr : ' Aeth Dafydd gwawdydd drwy gôr / I nefoedd o flaen Ifor. ' Gweler ymhellach Williams a Roberts, Cywyddau Dafydd ap Gwilym, 1914, xvii-xx. Ar Basaleg, gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, vii, 277.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.