Bu JOHN LESTRANGE (a fu farw c. 1269) yn dyst i'r cytundeb rhwng Dafydd ap Gruffydd a'r brenin Harri III ym mis Mai 1240; yn Mawrth 1241 apwyntiwyd ef i farnu achos Dafydd, ac yn Ionawr 1245 yr oedd yn aelod o gomisiwn i wneud telerau â Dafydd. Priododd Hawise, merch John Lestrange, â Gruffydd ap Gwenwynwyn. Yn 1244-5 ysgrifennodd John Lestrange at Harri III i ddweud wrtho am gynhorthwy Gruffydd i'r achos Seisnig; yn 1257 cynorthwyodd dywysog Powys yn erbyn Llywelyn; hefyd fe amddiffynnodd ROGER LESTRANGE (mab John; bu farw yn 1311) gastell Dolforwyn dros Gruffydd, ac ysgrifennodd at Edward, I i gefnogi hawl Gruffydd i diroedd rhwng y Rhiw a'r Helyg. Bu Hawise, gwraig Gruffydd, yn arweinydd yng nghynllwyn gwrthryfelgar Dafydd yn erbyn Llywelyn yn 1274. Yr oedd Roger Lestrange yn ustus yn Rhuddlan yn 1278; bu'n llywodraethu Maelor Saesneg a Mechain yn yr un flwyddyn, a thua diwedd y 13eg ganrif arweiniodd rai o'r lluoedd Seisnig yn erbyn y Cymry; cyfarfu ei lu ef â Llywelyn yn Llanfair-ym-Muellt ym mis Rhagfyr 1282. Bu amryw aelodau eraill o'r teulu hwn o Sir Amwythig yn flaenllaw yn y rhyfeloedd Cymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.