mab ordderch i Madog ap Maredudd, brenin diwethaf Powys. Magwyd ef yn Porkington, trefgordd a elwid yn Brogyntyn gan y Cymry, ac ymddengys iddo barhau ar delerau da â'r brenin Harri II wedi'r amser y bu ei dad farw (yn 1160), oblegid y mae ar gael gofnod yn ei ddisgrifio'n bensiynnwr y brenin mor ddiweddar â 1169. Yr oedd yn fyw yn 1188 ac yn dal tiroedd yn Edeirnion a Dinmael lle y ceir ei ddisgynyddion yn parhau yn ddeiliaid am gryn amser ar ôl y goncwest gan Edward I. Gadawodd dri mab, Bleddyn, Iorwerth, a Gruffydd, o'i wraig Margaret, merch Einion ap Seisyll, Mathafarn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.