HAWYS (HAWISE) GADARN (1291 - cyn 1353),

Enw: Hawys (Hawise) Gadarn
Dyddiad geni: 1291
Dyddiad marw: cyn 1353
Priod: John de Cherleton
Plentyn: Owen Cherleton
Plentyn: John Cherleton
Rhiant: Joanna de la Pole (née Corbet)
Rhiant: Owen de la Pole
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

merch Owen de la Pole a Joanna Corbet ac ŵyres Gruffydd ap Gwenwynwyn. Gan ei bod yn aeres ei hunig frawd, Gruffydd, a fu farw yn 1309, daeth yn ward y Goron, a rhoddwyd hi'n wraig i John Charlton ynghyd â barwniaeth Powys, yn yr un flwyddyn. Bu iddi ddau fab - John, ail arglwydd (Charlton) Powys, ac Owen, a fu farw yn ddietifedd. Y mae'n debyg mai yn nhŷ y Brodyr Llwydion, Amwythig, y claddwyd hi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.