Hanoedd o dref Caerbuga (Usk), ar lan afon Wysg. Yr oedd yn ddyledus am ddechrau ei yrfa i Edmund Mortimer, iarll March, a gawsai arglwyddiaeth Usk fel rhan o etifeddiaeth ei wraig Philippa; talodd ef drosto (1369) i fynd i ddysgu'r gyfraith sifil a chanon yn Rhydychen. Yng nghwrs amser, cymerth radd doethur yn y gyfraith a dyfod yn athro'r gyfraith yn y brifysgol; yno, fel y dywed ef ei hun, bu a rhan fawr yn yr ymladdfeydd ag arfau a fu yn y cyfnod 1388-9 rhwng y Gogleddwyr a'r Deheuwyr (yn cynnwys y Cymry). Yn ddiweddarach ymadawodd a Rhydychen gan wasanaethu am saith mlynedd fel dadleuydd cyfreithiol yn llys archesgob Caergaint.
Ei gysylltiad ag iarll Arundel a benderfynodd ei agwedd wleidyddol. Yr oedd ganddo sedd yn Senedd 1397; yn ei gronicl nid ydyw'n celu ei elyniaeth tuag at Richard II a'i gefnogwyr. Pan gafwyd tro ar fyd yn 1399, yr oedd ef gyda'r blaid fuddugol; teithiodd gyda Harri IV a'r archesgob o Fryste i Gaer, ac ar y daith setlodd gweryl rhwng iarll Lancaster a'i gyfeillion ef ei hun yng Nghaerbuga. Yr oedd yn aelod o'r comisiwn a benodwyd i ddarganfod rhesymau cyfreithiol o blaid diorseddu Richard II; a gwelodd a chlywodd Adam y brenin hwnnw pan oedd yn garcharor yn Nhwr Llundain.
Yr oedd priffordd llwyddiant bellach yn agored o'i flaen, a derbyniai daliadau o goffrau'r Eglwys heblaw'r hyn a enillai wrth ei briod waith. Eithr daeth un o'r taliadau hyn ag ef i drybini; mynnai Walter Jakes (alias Ampney) nad oedd gan Adam hawl ddigonol i ganoniaeth Llandygwydd (Sir Aberteifi) yng ngholeg Abergwili, a ddaethai i feddiant Jakes ei hunan yn 1399 trwy gyfnewid. Dyma'n ddiau achos yr ymrafael rhyngddynt yn Westminster ym mis Tachwedd 1400 pryd y gwysiwyd Adam a'i gwmni a'u cyhuddo o ladrad-pen-ffordd. Ni wyddys beth a ddaeth o'r achos hwn; sut bynnag am hynny ni pheidiodd Adam â'i waith fel cyfreithiwr. Yn gynnar yn 1402, serch hynny, am ryw reswm neu'i gilydd penderfynodd Adam adael y wlad a mynd i aros yn Rhufain, lle y caffai ei wybodaeth a'i fedr fel cyfreithiwr eu gwerthfawrogi a'u cydnabod yn deilwng. Cafodd ganiatâd y brenin i fynd, ac fe gychwynnodd ar 19 Chwefror.
Nid hir y bu cyn ennill ffafr y pab; yr oedd, yn Ionawr 1403, wedi gofalu cael pardwn y brenin am y camwedd yn Westminster. Yr oedd Boniface IX ac yn enwedig Innocent VII yn barod i roddi esgobaeth ym Mhrydain iddo. Eithr yn awr, efallai o achos gwrthryfel Glyn Dwr, wynebai Adam elyniaeth chwerw'r brenin. Amhosibl oedd iddo ddychwelyd i Loegr; daeth siomedigaeth arall i'w ran pan dorrodd allan gythrwfl yn Rhufain yn Awst 1405 a barodd i'r pab gael ei erlid o'r ddinas ac amharu yn ddifrifol ar amgylchiadau tymhorol Adam. Parodd y profiadau hyn, ynghydag afiechyd peryglus, iddo feddwl eto am ei gartref; gadawodd Rufain ym mis Mehefin 1406 a throi tua Bruges. Â'r drws eto wedi ei gau rhagddo, treuliodd ddwy flynedd yn Ffrainc a Fflandrys, gan ennill ei fara trwy gyfrwng y gyfraith. Pan oedd yn Bruges bu'n tueddu i wrando ar gais iarll Northumberland, a oedd y pryd hynny yn cynllwyn yn erbyn y brenin; eithr ymataliodd Adam rhag bod â chyfran ganddo yng nghwymp yr iarll.
Yn 1408 hwyliodd am Gymru, gan lanio yn Abermaw a gobeithio, fel y dywed ef ei hun yn ei gronicl, gyrraedd cyn belled ag arglwyddiaeth Powys, a oedd ar y pryd yn llaw Edward Charlton, gwr a gawsai arglwyddiaeth Usk pan briododd ei wraig gyntaf. Os hyn oedd ei wir amcan - ac y mae'n amlwg fod Owen Glyn Dwr yn mawr ddrwg-dybio gwrogaeth Adam - fe lwyddodd yn hynny, a bu'n byw am rai blynyddoedd, o dan nawdd Charlton, yn gaplan tlawd yn y Trallwng. Gorfu iddo ddisgwyl hyd fis Mawrth 1411 am bardwn brenhinol llawn a'i gollyngodd yn rhydd unwaith yn rhagor gyda chyfle i ailadeiladu ei fuddiannau personol.
Ond yr oedd anterth ei ddydd drosodd a threuliodd weddill ei oes mewn dinodedd gan mwyaf. Bu farw'n gynnar yn 1430 a'i gladdu yn eglwys priordy Caerbuga, lle y gwelir ei feddysgrifen, ar fesur cywydd, hyd heddiw. Y mae ei ewyllys hefyd wedi ei chadw. Gadawodd gymynroddion i amryw achosion crefyddol yn esgobaeth Llandaf ac i bersonau yn dwyn enwau Cymreig. Yn eu plith yr oedd ei ysgutor a'i gâr, Edward ab Adam; cafodd ef gopi Adam o lawysgrif 'Polychronicon' Ranulf Higden; y mae'n debyg iddo adael gyda'r llawysgrif hon ddefnyddiau ar gyfer ei gronicl ef ei hun hyd y flwyddyn 1421 - defnyddiau a ysgrifennwyd gan amryw ysgrifenwyr, tuag ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn y gyfrol hon ei hun. A'r cronicl hwn sy'n cyfrif fwyaf am enwogrwydd Adam. Ceir ynddo fanylion tramor a hefyd ei hanes ef ei hun; y mae'n wir werthfawr am gyfnod mudiad Glyn Dwr. Fe'i golygwyd gan Syr E. Maunde Thompson yn 1876 o B.M. Add. MS. 10104; yn 1904 gallodd y golygydd hwnnw ychwanegu'r diwedd coll o un o lawysgrifau Belvoir.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.