DAFYDD LLWYD ap LLYWELYN ap GRUFFUDD, o Fathafarn (c. 1420 - c. 1500). Ef oedd awdur tua 50 o'r 200 o gywyddau brud ei gyfnod sydd ar gael, a dyna ei enwogrwydd pennaf

Enw: Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
Dyddiad geni: c. 1420
Dyddiad marw: c. 1500
Priod: Margred wraig Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
Plentyn: Margred ferch Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
Plentyn: Llywelyn ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
Plentyn: Maredudd ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
Plentyn: Ieuan ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Ef oedd awdur tua 50 o'r 200 o gywyddau brud ei gyfnod sydd ar gael, a dyna ei enwogrwydd pennaf
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Fe'i hystyrid hefyd yn ei ddydd yn ddehonglwr mawr o'r hen lyfrau brud. Ym mhlwyf Llanwrin yr oedd ei Blas, a dengys ei achau ei hanfod o deulu bonheddig yn y fro honno, a'i wraig, Margred, yr un modd. Goroesodd ef ei blant. Ieuan, Maredudd, a Llywelyn oedd enwau tri o'i feibion, a cheir sôn am ferch o'r un enw a'i mam (Powys Fadog, vi, 37), ac am feibion eraill efallai. Heblaw'r cywyddau brud, ceir canu ymryson rhyngddo a Llywelyn ap Gutun ac eraill. Fel bardd yn canu ar ei fwyd ei hun, ychydig o gywyddau gofyn, moliant, a marwnad a ganodd, ond dewisodd wrthrychau ei foli a'i farwnadau o blith gwŷr a wir edmygai, a hwy gan amlaf yn enwogion Cymru yn ei ddydd, ac y mae ganddo farwnadau gwych. Canodd gywydd i Dydecho sy'n werthfawr fel yr unig 'fuchedd' sydd ar gael i'r sant hwnnw, a chanodd gywydd natur hyfryd i afon Dyfi. Ceir hefyd ddarnau o ganu natur sylwgar a champus ymhlith ei weithiau eraill. Ei waith cynharaf y gellir ei ddyddio yw ei farwnad i Syr Gruffudd Fychan (bu farw 1447), a bu fyw i ganu i Arthur fab Harri VII, a aned yn 1486, ac os gellir derbyn y dystiolaeth ym Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xxxi, 195, yr oedd yn canu yn 1497. Ni cheir ganddo farwnad i Arthur, a fu farw yn 1501, nac i'w brif arwr, Harri VII (bu farw 1509). Rhydd beirdd ei oes glod i Dafydd Llwyd fel milwr, heliwr, fel ' ysgwier ' (anrhydedd a gafodd wedi Maes Bosworth), fel 'eos cerdd,' ac fel 'cyw Myrddin ' (h.y. daroganwr).

Mydryddir llawer o ddefnydd traddodiadol yn ei gywyddau brud, ond yn aml iawn i bwrpas cyfoes, sef propaganda gwleidyddol. Gall ganmol Dafydd ap Ieuan ap Einion, a'r un modd ei elyn, William Herbert : ond y mae'n gwbl gyson yn y bôn, am na faliai fawr am yr ymrafael 'rhosynnaidd' Seisnig, ond yn unig fel y gallai roi ei gyfle i waredwr cenedl y Cymry. Dyhead am undod a gwaredigaeth ei genedl, a dig at y Saeson am ei difreinio, oedd prif gymelliadau ei frudio a'i awen. Heblaw ei gywyddau, ni cheir o'i waith yn aros ond un awdl wych i Ddewi (sydd hithau yn ganu brud), ac ychydig englynion. Ceir traddodiad i Harri Tudur fwrw noson gyda Dafydd Llwyd ym Mathafarn ar ei daith i Bosworth, ac i wraig y bardd ei annog (fel petasai angen!) i ddarogan llwyddiant iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.