y dywedir ei fod yn fab Annwn Ddu ab Emyr Llydaw. Nid oes fuchedd iddo'n wybyddus eithr cyfeirir ato ym muchedd S. Padarn fel un o dri arweinydd grwpiau o seintiau a ddaeth o Lydaw i Gymru. Y mae rhai ysgolheigion yn amau ai Llydaw cyfandir Ewrop oedd yr ' Armorica ' y cyfeirir ati gan ei bod yr un mor debygol mai ardal yn ne-ddwyrain Cymru, ardal a oedd yn enwog fel magwrfa saint, ydoedd. Pa fodd bynnag am hynny, y mae'n sicr i'r seintiau ' Llydewig ' gyrraedd gorllewin Cymru dros y môr, gan fod eu heglwysi i gyd, ar y cyfan, yn nyffrynnoedd afonydd sydd yn rhedeg tua'r gorllewin i Fae Aberteifi. Canolwyd parch Tydecho yn ardal Mawddwy ac felly nid ydyw'n eithriad i'r rheol gyffredinol. Y mae parhad ei barch yn yr ardal hon yn nodedig - a barnu oddi wrth dystiolaeth llenyddiaeth yn unig. Cedwir yr hanes a'r traddodiad amdano dan Dafydd Llwyd ap Llewelyn ap Gruffydd, bardd o'r 15fed ganrif a oedd yn byw ym Mathafarn, heb fod ymhell o'r fan lle y dywedir i Dydecho ymsefydlu. Deallwn wrth ddarllen cywydd y bardd hwn i Tydecho i'r sant fyw bywyd meudwy gyda'i chwaer Tegfedd a'i fod yn cael ei boeni'n fynych gan Maelgwn Gwynedd, arch-elyn y seintiau. Yn y ganrif ddilynol ceir bardd arall, Mathew Brwmffield yn canu cywydd i Dydecho a dau blwyf Mawddwy ac yn cyfeirio at wyrth enwog yr adroddid ei chyflawni yn yr ardal honno gan y sant. Yr unig beth y gellir ei adrodd heddiw am Dydecho gydag unrhyw sicrwydd ydyw fod dosbarthiad yr eglwysi sydd yn parhau i ddwyn ei enw yn cydfynd â'r traddodiad iddo ef ac amryw gydymdeithion gyrraedd arfordir Meirionnydd dros y môr ac iddynt dreiddio i'r tir ac ymsefydlu yn ardal Mawddwy a'r holl wlad sydd erbyn heddiw yn ffurfio'r ffin deheuol rhwng siroedd Meirionnydd a Threfaldwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.