GRUFFUDD BENRHAW, neu PENRHAW (15fed ganrif), bardd

Enw: Gruffudd Benrhaw, Neu Penrhaw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

y gwyddys ei fod yn ŵr o Frycheiniog ac o dylwyth yr Awbreaid. Cadwyd cyfres o englynion a fu rhwng Gruffudd ap Nicolas, Owain Dwnn, ac yntau. Ceir darnau o ryddiaith gyda'r rhain, a'r cyfan yn rhoi gwahanol helyntion y Fenrhaw, a oedd yn 'ddyn dyrys drwg ei reol.' Rhoir hanes ei garcharu yng Nghaerfyrddin a'i ryddhau drwy gymorth Gruffudd ap Nicolas; ei ail-garcharu a thalu ei ddyled gan Tomas ap Gruffudd ap Nicolas; ei geinioca yn eglwys Caerfyrddin a'i ddianc i Went ac Euas; ac yn olaf ei ddychwelyd at Gruffudd ap Nicolas i erfyn ei faddeuant. Ni chafwyd dim arall o waith y bardd hyd yn hyn, nac unrhyw esboniad ar ei enw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.