IDWAL FOEL (bu farw 942), brenin Gwynedd
Enw: Idwal Foel
Dyddiad marw: 942
Plentyn: Meurig ab Idwal Foel
Plentyn: Ieuaf ap Idwal Foel
Plentyn: Iago ap Idwal Foel
Rhiant: Anarawd ap Rhodri Mawr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Gwynedd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce
mab Anarawd ap Rhodri Fawr. Dechreuodd deyrnasu yng Ngwynedd yn 916 ac wedi peth gwrthsefyll cydnabu benarglwyddiaeth teyrnas Wessex. Collodd ei fywyd mewn cyrch aflwyddiannus yn erbyn y Saeson yn 942, alltudiwyd ei feibion, a daeth yr awdurdod i ddwylaw ei gefnder, Hywel Dda. Er i ddau o'i feibion, sef Iago ac Ieuaf, gael dychwelyd yng nghwrs amser, trwy fab iau, Meurig, y trosglwyddwyd ei waed ef i brif linach deyrnasol Gwynedd y canol oesoedd.
Awdur
- Yr Athro Thomas Jones Pierce, (1905 - 1964)
Ffynonellau
- A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (London 1912)
Darllen Pellach
- Erthygl Wicipedia: Idwal Foel
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q2707095
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/