MEURIG ab IDWAL FOEL (bu farw 986)

Enw: Meurig ab Idwal Foel
Dyddiad marw: 986
Plentyn: Idwal ap Meurig
Rhiant: Idwal Foel
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab ieuengaf Idwal Foel. Gan iddo farw yr un flwyddyn â'i nai, Cadwallon, brenin Gwynedd, y mae'n debyg na fu erioed yn frenin ei hunan; eithr cadwyd llinach Rhodri Fawr yng Ngwynedd trwy ei ddisgynyddion ef - gweler Idwal ap Meurig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.