HYWEL YSTORM (neu YSTORYN), clerwr, neu fardd gogan yn canu yn hanner cyntaf y 14eg ganrif.

Enw: Hywel Ystorm (Neu Ystoryn)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerwr, neu fardd gogan
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ffurf ei enw yn llawysgrif Mostyn 118 (509) yw 'Ystoryn,' ond 'Ystorym' sydd yn y Llyfr Coch, col. 1337, lle ceir uwchben cerdd o'i waith mai ' Howel Ystorym ae cant y ad(d)af eurych.' Priodola G. J. Williams (Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 6-8) iddo'r holl ganu gogan dienw sy'n dilyn hyd at ddiwedd col. 1348, a dyna'i sail dros ei ystyried yn gyfoeswr â Chasnodyn - gweler col. 1341, ll. 42. Os felly canodd ddychangerddi i wŷr yn y Gogledd o Fôn i Faelor, a hefyd ym Morgannwg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.