Y cyntaf o feirdd Morgannwg y ceir ei waith yn y llawysgrifau. Canai hefyd yng Ngwynedd a Cheredigion. Nid yw'n gwbl sicr pa awdlau y dylid eu priodoli iddo. Ceir ymhlith ei waith yn Llyfr Coch Hergest ddarnau a briodolir yn y The Myvyrian Archaiology of Wales i Ruffudd ap Maredudd, a rhydd y The Myvyrian Archaiology of Wales i Gasnodyn yr awdl i Ieuan abad Aberconwy sydd yn ôl y Ll. Coch yn waith Riserdyn. Dywed ' Iolo Morganwg ' mai gŵr o Gilfai oedd Casnodyn, ac ymddengys fel petai Hywel Ystorym, gŵr o'i oes ei hun, yn cyfeirio at yr un peth mewn cerdd ddychan iddo, sef: ' Pryf waeth waeth ei faeth o fythau Cilfai ' (Ll. Coch 1342). Canodd Casnodyn i Wenlliant, gwraig y Syr Gruffudd Llwyd a oedd yng ngharchar yn 1322, ac i Ieuan Llwyd ab Ieuan ap Gruffudd o Geredigion (gŵr y priodolir marwnad Angharad ei wraig i Ddafydd ap Gwilym). Canodd hefyd i'r Drindod, a'i awdl farwnad i Fadog Fychan o'r Goetref, Llangynwyd, stiward Tir Iarll dan Arglwydd Morgannwg, a gŵr pwysig tua 1330, yw'r gerdd gyntaf sydd ar gael i unrhyw un o foneddigion y wlad honno. Y mae gan Casnodyn gyfeiriadau eraill yn ei waith at leoedd ym Morgannwg, ac yn ei gân i Wenlliant sonia am ei ' Wenhwyseg.' Geilw ei hun wrth yr enw Gruffudd yn ei awdl i Fadog Fychan. Sonia Casnodyn amdano'i hun yn dysgu 'hawdd hoddiaw gerdd berffaith' gan Ieuan Llwyd, gŵr a oedd yn dad ac yn daid i feirdd.
Y mae Casnodyn yn enghraifft o'r ysgol geidwadol yn ei ddydd, yn dirmygu'r 'gler ofer' a 'sothachieith beirdd ceith Caeaw.' Yr oedd yn geidwadol hefyd yn ei agwedd tuag at y byd newydd a oedd yn tyfu o'i gwmpas, a chanmolai uchelwyr 'disaesneg' o'r hen fath. Eto y mae'r gynghanedd yn fwy datblygedig yng ngwaith Casnodyn na chan ei ragflaenwyr, ac fe'i nodweddir gan fynych arfer cynghanedd sain o wead clos, fel yn ei linell fwyaf adnabyddus, sef ' Main riain firain gain Gymraeg.' O'r awdl i'r Drindod y codwyd yr enghraifft o rupunt yn Cerddwriaeth Cerdd Dafod (testun y Ll. Coch).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.