Y mae canon ei waith yn ansicr, a'r testun yn gymysg. Ceir ymdriniaeth ar yr awdlau a briodolir iddo yn Llyfr Coch Hergest a'r The Myvyrian Archaiology of Wales gan Henry Lewis yn y Bulletin of the Board of Celtic Studies, cyf. I, rhan ii, 123-33. Canodd awdlau moliant i Ronwy (Fychan) ap Tudur (bu farw 1382), i Fyfanwy gwraig Ronwy Fychan, ac awdl-farwnad i Syr Hywel y Fwyall (bu farw 1381). Y mae llawysgrif NLW MS 4973B , 260b, yn priodoli i Risierdyn yr awdl i abad Aberconwy a briodolir i Gasnodyn yn The Myvyrian Archaiology of Wales , ac y mae Peniarth MS 118 (140) yn rhoi i Risierdyn yr awdl 'Y Duw uchaf y kyfarchaf,' a briodolir yn Llyfr Coch Hergest (col. 1251) i Fleddyn Ddu. Y mae amryw lawysgrifau (e.e. Bodl. 1 a 2, Peniarth MS 90 a Peniarth MS 100 ) yn cynnwys cywydd moliant i Hwlcyn ap Howel ap Ierwerth Ddu o Bresaddfed, Môn ('Cad ddirwy keidw ddwyrodd') ac yn ei briodoli i Risierdyn. Sonnir yn y cywydd hwn am Hwlcyn yn mynd ar bererindod i Gaersalem.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.