Pan feddiannwyd y Deheubarth gan Gruffydd ap Llywelyn yn 1044, rhoddwyd ynni newydd i wrthwynebiad y De; gan arweiniad Gruffydd ap Rhydderch; felly adenillodd ei hannibyniaeth yn 1045. Rhoddodd Gruffydd i'w wlad fabwysiedig lywodraeth rymus a nodweddwyd gan wrthwynebiad i'r Daniaid. I raddau gellir priodoli ei hawl i ymyrryd yn helyntion Deheubarth i'r ffaith i'w dad lwyddo i gipio'r awdurdod yno rhwng 1023 a 33. Yn ychwanegol yr oedd Gruffydd eisoes yn frenin ym Morgannwg - ar Wynllwg mae'n debyg - a bu gan ei ddisgynyddion fesur o awdurdod yno hyd 1270.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.