Erthygl a archifwyd

GRUFFUDD AP LLYWELYN (bu farw 1064), brenin Gwynedd 1039-1064 a phenarglwydd ar y Cymry oll 1055-1064

Enw: Gruffudd ap Llywelyn
Dyddiad marw: 1064
Priod: Ceinfryd
Priod: Ealdgytha wraig Gruffudd ap Llywelyn
Plentyn: Owain ap Gruffudd
Plentyn: Ithel
Plentyn: Cynin
Plentyn: Nest ferch Gruffudd ap Llywelyn
Plentyn: Idwal ap Gruffudd
Plentyn: Maredudd ap Gruffudd
Rhiant: Angharad ferch Maredudd ab Owain
Rhiant: Llywelyn ap Seisyll
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Gwynedd 1039-1064 a phenarglwydd ar y Cymry oll
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Benjamin Hudson

Mab ydoedd i Lywelyn ap Seisyll ac Angharad merch Maredudd. Roedd Gruffudd yn un o dywysogion Brythonaidd mwyaf llwyddiannus yr Oesoedd Canol, a honna Llyfr Llandaf mai ef oedd 'brenin Cymru benbaladr'. Serch hynny, yn unol â'r syniad canoloesol am Olwyn Ffawd, daeth ei yrfa i ben mewn alltudiaeth a marwolaeth dreisgar.

Hanai ei dad Llywelyn o Bowys yn wreiddiol. Cipiodd frenhiniaeth Gwynedd trwy rym arfau tua 1018 ac enillodd reolaeth dros Ddeheubarth yn 1022 cyn iddo farw yn 1023. Trwy ei fam Angharad roedd Gruffudd yn wyr i Faredudd ab Owain (bu farw 999), brenin mawr Deheubarth a phenarglwydd ar Wynedd a Phowys. Mae chwedl angharedig am ddyddiau cynnar Gruffudd i'w chael mewn casgliad o'r ddeuddegfed ganrif o'r enw De Nugis Curialium gan Walter Map (sy'n ei alw wrth enw ei dad). Honna'r chwedl ei fod yn llanc diog ac un Nos Galan, ar ôl i'w chwaer ei daflu allan o'r tŷ, iddo glywed cwyn o dŷ cyfagos bod darn o gig yn brigo i wyneb y pair o hyd, a chymryd hyn fel argoel o'i lwyddiant yn y dyfodol.

Crybwyllir Gruffudd yn Annales Cambriae am y tro cyntaf dan y flwyddyn 1039 pan enillodd fuddugoliaeth ym mrwydr Rhyd-y-groes ar afon Hafren lle lladdwyd brenin Gwynedd o'r enw Iago ab Idwal. Yn sgil hynny anrheithiodd Lanbadarn a gyrrodd Hywel ab Edwin allan o arglwyddiaeth Deheubarth. Dychwelodd Hywel ymhen dwy flynedd, ond cafodd ei drechu gan Gruffudd ym mrwydr Pencader yn Sir Gaerfyrddin, lle cipiwyd gwraig Hywel hefyd.

Ar ôl ei lwyddiannau cynnar, dechreuodd cystadleuwyr Gruffudd edrych am gymorth dros Fôr Iwerddon. Cafodd ei herwgipio gan Lychlynwyr o Ddulyn yn 1042. Yn ôl tystiolaeth yr Historie of Cambria gan yr hanesydd o'r unfed ganrif ar bymtheg David Powel (a honnodd mai cronicl Cymraeg canoloesol oedd ei ffynhonnell), cynlluniwyd yr herwgipiad gan Gynan, fab Iago, ond methodd pan ryddhawyd y carcharorion gan y Cymry wrth iddynt gael eu tywys i'r llong. Tro Hywel ab Edwin, un arall o gystadleuwyr Gruffudd, oedd hi wedyn i godi llu Llychlynnaidd o Iwerddon yn 1044. Wynebodd y ddeuddyn ei gilydd mewn brwydr ger afon Tywi, lle y cafodd Hywel ei drechu a'i ladd.

Daeth cystadleuwyr newydd i'r amlwg yn y de, y brodyr Gruffudd a Rhys, meibion Rhydderch ab Iestyn. Mae'n bosibl eu bod wedi dal grym yn Neheubarth trwy gynghrair â'r tywysog o'r gogledd, gan fod cofnod cwta tua 1045 yn honni bod brad rhyngddynt hwy a Gruffudd. Efallai mai hwythau a ysgogodd bobl Ystrad Tywi i ladd 140 o wŷr Gruffudd y flwyddyn ganlynol. Honna testun cynharaf Annales Cambriae (tua 1100) fod y dynion a laddwyd yn rhan o familia (gosgordd personol) Gruffudd, llu goresgynnol efallai. Dialodd Gruffudd trwy anrheithio Ystrad Tywi yn ogystal â Dyfed. Efallai iddo gael llai o lwyddiant yn erbyn meibion Rhydderch nag yr awgrymir gan y cofnodion a oroesodd, oherwydd yn 1046 (yn ôl fersiwn 'C' o'r Anglo-Saxon Chronicle) ymgynghreiriodd Gruffudd â'r uchelwr Eingl-Sacsonaidd Sven Godwinson, a wnaed yn iarll yr ardal o gwmpas Henffordd yn 1043, ar gyfer cyrch ar dde Cymru, lle cymerasant wystlon. Gallasai'r dinistr fod yn llym, a honna'r Annales Cambriae fod ardaloedd dwyreiniol Cymru yn ddiffeithwch ddwy flynedd wedyn. Talodd Gruffudd ap Rhydderch y pwyth yn 1049, pan gododd lu Llychlynnaidd o Iwerddon gan anrheithio tiriogaeth Sven o gwmpas Henffordd a Chaerloyw; goresgynnodd swydd Henffordd eto yn 1052. Wynebodd y ddau Gruffudd ei gilydd am y tro olaf yn 1055 pan laddodd y tywysog o'r gogledd ei gystadleuydd deheuol gan uno'r Cymry dan ei reolaeth.

Cadwyd cof am waith trwyadl Gruffudd yn dileu ei gystadleuwyr ganrif yn nes ymlaen yn yr apologia sarrug a geir yng nghasgliad Walter Map: 'Ni laddaf neb, dim ond pylu cyrn y Cymry fel na allant niweidio eu mam.'

Yn fuan ar ôl dileu hen gystadleuydd cafwyd cynghreiriad newydd ac annisgwyl. Dygwyd cyhuddiad o frad yn erbyn Ælfgar, mab Iarll Leofric o Mercia, ac yn hwyr ym mis Mawrth 1055 fe'i dedfrydwyd yn herwr. Ffodd i Iwerddon a chododd lynges o ddeunaw llong gan 'seren ar gynnydd' byd gwleidyddol Iwerddon, y Brenin Diarmait mac Máel na mbó o Leinster. Wedi iddo ddychwelyd i Brydain, aeth Ælfgar i Gymru gan ymgynghreirio â Gruffudd. Wedi ymgyfarfod yn swydd Henffordd, wynebodd eu byddinoedd lu dan arweiniad Ralph de Mantes, nai'r Brenin Edward y Cyffeswr, a bu brwydr rhyngddynt ddwy filltir o dref Henffordd ar 24 Hydref. Gruffudd ac Ælfgar a fu'n fuddugol, ac aeth eu milwyr ati i anrheithio'r dref. Mewn ymateb, cynullwyd byddin yng Nghaerloyw dan arweiniad brawd-yng-nghyfraith y brenin, Harold Godwinson, brawd Sven, cyn-gynghreiriad Gruffudd. Dilynodd Harold y ddau, ond gwrthododd Gruffudd ac Ælfgar gael eu tynnu allan o'u lloches yn ne Cymru. Wedi atgyfnerthu Henffordd, cwrddodd Harold â'i elynion mewn cynhadledd yn Billingsley a chytunwyd ar delerau, gan gynnwys cynghrair. Adferwyd Ælfgar i'w diroedd ac ar ôl marwolaeth ei dad yn 1057 etifeddodd ef yr iarllaeth. Roedd eraill yn llai parod i heddychu, ac ar 16 Mehefin 1056 wynebodd Gruffudd esgob newydd Henffordd, Leovegar (offeiriad Harold Godwinson gynt) mewn brwydr, gan ei drechu a'i ladd yn Claftbyrig. Ceir arwydd o'r dinistr yn arolwg Domesday ar gyfer swydd Henffordd sy'n honni bod Gruffudd a'i hanner brawd Bleddyn wedi anrheithio'r ardal o gwmpas Ergyng i'r fath raddau fel nad oedd ei gwerth yn hysbys cyn 1066. Tua'r adeg hon honna fersiwn 'C' o'r Anglo-Saxon Chronicle i Gruffudd ddod yn 'is-frenin' i'r Brenin Edward, er i gronicl John of Worcester nodi'n syml i'r ddeuddyn gymodi. Pan alltudiwyd Ælfgar eto yn 1058 ffodd yn syth at Gruffudd ac ymunodd y tywysog coronog Norsaidd Magnus Haraldsson â'r cynghreiriaid gan arwain llynges a godwyd yn ynysoedd Heledd ac Erch ac yn Nulyn. Ymosodwyd ar ryw ardal anhysbys o Loegr, ond ychydig a wyddys am yr ymosodiad heblaw, unwaith eto, adferiad Ælfgar. Cadarnhawyd y gynghrair rhwng Gruffudd ac Ælfgar yn y cyfnod hwn pan briododd merch Ælfgar, Ealdgytha 'Swan-neck', â Gruffudd. Yn sgil cyrchoedd 1055 a/neu 1058, mae bron yn sicr, cymododd y Brenin Edward â Gruffudd, cymod a gyflwynir gan Walter Map fel ymddarostyngiad ar ran Gruffudd. Noda'r Domesday Book i Edward ildio i Gruffudd y cyfan o swydd Gaer i'r gorllewin o afon Dyfrdwy ac efallai llain o diriogaeth i'r dwyrain o Glawdd Offa mor bell i'r de â Henffordd. Cryfhaodd Gruffudd ei afael ar y tiroedd newydd hyn trwy ganiatáu i wladychwyr o Gymry symud i mewn i'r ardaloedd a gyfeddiannwyd.

Cafwyd ysbaid o dawelwch yn ystod y pum mlynedd dilynol. Oherwydd ei allu milwrol profedig, y cwlwm priodasol rhyngddo ac iarll Mercia a'i gynhreiriau â thywysogion Gwyddelig a Norwyaidd, roedd Gruffudd yn elyn peryglus. Eithr nid oedd yn rhy beryglus i bawb, ac roedd ei nemesis Harold Godwinson yn aros am gyfle i ymosod. Achubodd ei gyfle adeg y Nadolig 1063 gan arwain cyrch ar gadarnle Gruffudd yn Rhuddlan. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r gaer a'r llynges, ond dihangodd Gruffudd. Yn nes ymlaen, yn ystod Dyddiau'r Gweddïau (17-19 Mai), hwyliodd Harold gyda llynges o Fryste i ddarostwng yr arfordir tra bod ei frawd Tostig yn arwain byddin i mewn i Gymru. Roedd Gruffudd wedi ffoi i Iwerddon lle y lladdwyd ef ar 5 Awst 1064 gan Gynan ab Iago, y gŵr yr oedd ei gynllwyn i herwgipio Gruffudd wedi methu yn 1042. Cyhoeddwyd marwolaeth Gruffudd yn y llys yn Lloegr trwy gyflwyno ei ben a blaenddelw ei long. Rhannwyd Gwynedd a Phowys rhwng ei hanner brodyr ar ochr ei fam, Bleddyn a Rhiwallon, meibion Cynfyn.

Roedd yr atgofion am Gruffudd yn amrywiol. I'r Cymry roedd yn ddelfryd o dywysog buddugoliaethus. Cafodd Gruffudd ap Cynan hyd yn oed, mab y gŵr a'i lladdodd, ei gysylltu â'r cof amdano. Yn ôl hanes ei fywyd, yn ystod ymgyrch gyntaf Gruffudd i Gymru rhoddwyd crys a thiwnig wedi eu gwneud o fantell y diweddar frenin iddo gan Tangwystl, gwraig siambrlen Gruffudd. Ond roedd atgofion eraill yn llai caredig. Yn fuan ar ôl marwolaeth Gruffudd, cyhuddwyd ef gan awdur vita Edward y Cyffeswr o gynllwynio rhyfel yn ddi-baid. Gelwir Gruffudd yn deyrn a ormesai Gymru yn Taith trwy Gymru Gerallt Gymro o ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, barn a ategir gan Walter Map a honnodd y byddai Gruffudd yn dinistrio unrhyw un a allai fod yn gystadleuydd iddo. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd Gruffudd yn ffigwr llenyddol a gysylltid â fersiwn o chwedl Macbeth. Yn ôl Historie of Cambria David Powel, ar ôl i Fleance ddianc rhag llofruddiaid ei dad Banquo, cafodd loches yn llys Gruffudd.

Bu gan Gruffudd o leiaf ddwy, ac efallai dair gwraig. Cipiodd wraig ei gystadleuydd Hywel ab Edwin yn 1041 gan 'ei chadw iddo ef ei hun'. O'i briodas ag Ealdgytha merch Ælfgar o Mercia daeth eu merch Nest a briododd Osbern fitz Richard; Nest oedd enw ei merch hithau hefyd, a bu honno'n briod â Bernard o Neufmarché. Mae ach yn Hen Lwythau Gwynedd a'r Mars yn honni bod Ceinfryd merch Rhirid Mawr yn drydedd wraig iddo ac mai Cynin oedd enw ei mab hi gyda Gruffudd. Llai sicr, er yn ddichonadwy, yw ei fod yn dad i dri dyn a fu yn eu blodau yn nhrydydd chwarter yr unfed ganrif ar ddeg ac a ddisgrifir fel meibion Gruffudd yn unig: Owain, a fu farw yn 1059, a'r brodyr Maredudd ac Ithel a laddwyd wrth ymladd yn erbyn Bleddyn ap Cynfyn yn 1069.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-01-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

GRUFFUDD ap LLYWELYN (bu farw 1063), brenin Gwynedd a Phowys, ac ar ôl 1055 brenin Cymru oll

Enw: Gruffudd ap Llywelyn
Dyddiad marw: 1063
Priod: Ceinfryd
Priod: Ealdgytha wraig Gruffudd ap Llywelyn
Plentyn: Owain ap Gruffudd
Plentyn: Ithel
Plentyn: Cynin
Plentyn: Nest ferch Gruffudd ap Llywelyn
Plentyn: Idwal ap Gruffudd
Plentyn: Maredudd ap Gruffudd
Rhiant: Angharad ferch Maredudd ab Owain
Rhiant: Llywelyn ap Seisyll
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Gwynedd a Phowys, ac ar ôl 1055 brenin Cymru oll
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones

Mab Llywelyn ap Seisyll (bu farw 1023) ac Angharad ferch Maredudd ab Owain, brenin Deheubarth.

Prin yw'r wybodaeth am ei ieuenctid ond cadwyd rhai traddodiadau yn straeon Gwallter Map. Fel llanc yr oedd yn araf a diantur, meddir, ond yn ddiweddarach fe'i trowyd gan uchelgais yn ŵr dewr, beiddgar, wedi'i ddonio â dychymyg ac unplygrwydd. Pan laddwyd Iago ab Idwal yn 1039 gan ei wŷr ei hun, daeth Gruffudd ap Llywelyn yn frenin Gwynedd a Phowys. Yn union wedyn trawodd ergyd yn erbyn Saeson Mercia ym mrwydr Rhydygroes-ar-Hafren a gyrrodd hwynt yn waedlyd ar ffo. Dug y fuddugoliaeth hon ef i amlygrwydd, ac o hyn hyd ei farwolaeth parhaodd yn darian i'w wlad ac yn ddychryn i'w gelynion. Ar ôl taro gwŷr Mercia a sicrhau'r gororau troes ei sylw at y Deheubarth, lle yr oedd Hywel ab Edwin yn frenin. Ni wyddys llawer am yr ymrafael rhwng y ddau, ond yn 1040 ymosododd Gruffudd ar Geredigion a llosgi Llanbadarnfawr. Yn 1041 bu Gruffudd eilwaith yn fuddugol ar Hywel ym mrwydr Pencader, ond ni lwyddodd i'w lwyr drechu, achos yn 1042 gorchfygodd Hywel lu'r Cenhedloedd Duon yn Mhwlldyfach (heddiw Pwlldyfarch) ger Caerfyrddin. Dwy flynedd wedyn (1044) dug Hywel lynges o'r Cenhedloedd Duon gydag ef o Iwerddon ond fe'i lladdwyd mewn brwydr ffyrnig yn erbyn Gruffudd yn Abertywi. Hyd yn oed ar ôl hyn ni allodd Gruffudd feddiannu Deheubarth; cododd Gruffudd ap Rhydderch ap Iestyn i'w wrthwynebu. Yn 1045, yn ôl Brut y Tywysogion (Peniarth MS 20 , 18a), bu twyll mawr a brad rhwng Gruffudd ap Rhydderch a'i frawd Rhys a Gruffudd ap Llywelyn. Bu'n rhaid i Ruffudd gael help Swegen fab Godwin i geisio cynnal ei awdurdod yn Neheubarth. Yn 1047 lladdwyd tua 140 o 'deulu' Gruffudd drwy dwyll uchelwyr Ystrad Tywi, ac i ddial hynny anrheithiodd Gruffudd Ddyfedac Ystrad Tywi; ond ni allodd wneud mwy na hynny ac am yr wyth mlynedd ar ôl hynny yr oedd gan Ruffudd ap Rhydderch afael sicr ar Ddeheubarth. Troes Gruffudd ap Llywelyn ei egnïon i gyfeiriad arall; yn gynnar yn haf 1052 cyrchodd i wlad Henffordd a gorchfygodd lu cymysg o Saeson a Normaniaid ger Llanllieni. Yn 1055 lladdodd Ruffudd ap Rhydderch a chael meddiant o Ddeheubarth o'r diwedd. Hefyd, mewn cynghrair ag Ælfgar o Fercia, ymosododd ar Saeson a Normaniaid Henffordd o dan iarll Ralph, gyrrodd hwynt ar ffo a llosgodd y dref. Gyrrwyd Harold Iarll i ddial yr ymosodiad ond ni lwyddodd ond i atgyweirio Henffordd a dod i delerau gydag Ælfgar. Yn 1056 dug Leofgar, esgob Henffordd, fyddin yn erbyn Gruffudd ac ar 16 Mehefin bu brwydr rhyngddynt yn nyffryn Machawy. Unwaith eto bu Gruffudd yn fuddugol. Wedyn trwy ymdrechion yr ieirll Harold, Leofric o Fercia, ac Ealdred o Gaerwrangon daethpwyd i gytundeb a thyngodd Gruffudd ffyddlondeb i'r brenin Edward. Tua'r adeg yma hefyd priododd Gruffudd Ealdgyth ferch Ælfgar, a phan alltudiwyd Ælfgar drachefn yn 1058 helpodd Gruffudd ef, gyda chynhorthwy Magnus Haroldson, i ennill ei diroedd yn ôl. Yr oedd y cytundeb agos rhwng Gruffudd ac Ælfgar yn sicrhau diogelwch i Gymru, ond tua diwedd 1062, pan oedd Ælfgar wedi marw, ymosododd Harold Iarll yn ddirybudd ar lys Gruffudd yn Rhuddlan ond llwyddodd Gruffudd i ddianc. Yn 1063 lladdwyd Gruffudd ' drwy dwyll ei wŷr ei hun,' medd B.T., wedi iddo fod 'yn ben ac yn darian ac yn amddiffynnwr i'r Brytaniaid.' Gadawodd Gruffudd ddau fab, Maredudd (bu farw 1070) ac Idwal (bu farw 1070), ac un ferch, Nest, yr hon a briododd Osbern FitzRichard.

Awdur

  • Yr Athro Thomas Jones

    Ffynonellau

  • J. Williams (gol.), Annales Cambriae ( 1860 )
  • Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogion, Peniarth MS. 20 ( Cardiff 1941 )
  • Walter Map, De Nugis Curialium ( 1850; 1914; 1923 ), Dist. xxii-xxiii
  • Lives of Edward the Confessor ( 1858 ) (ed. Luard), 425
  • The Anglo-saxon chronicle
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1899-1900
  • J. E. Lloyd, A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest ( London 1911 ), ii. 358 ff.

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.