MAP (MAHAP, MAPES), WALTER (1140? - 1209?), archddiacon

Enw: Walter Map
Dyddiad geni: 1140?
Dyddiad marw: 1209?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archddiacon
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

ffigur pwysig (ac a ystyrid gynt yn bwysicach fyth) yn llenyddiaeth ei oes. Rhaid ymwrthod â'r syniad ei fod yn Gymro (nid o'r gair Cymraeg 'mab,' fel y byddid yn credu, y daw ei gyfenw); ni alwai mohono'i hun yn Gymro, ond yn 'gymydog' i'r Cymry; nid yw'n amlygu unrhyw gydymdeimlad â Chymru, ac nid yw ei wybodaeth o faterion Cymreig byth yn awgrymu gwybodaeth 'oddi mewn.' Y mae'n sicr mai brodor o gyrion Henffordd ydoedd. Yr oedd ei rieni wedi gwneud rhyw gymwynas â Harri II cyn i hwnnw esgyn i'r orsedd, a chafodd Walter ffafr y brenin tra bu Harri 'n fyw. Bu'n astudio ym Mharis o tua 1154 hyd 1160, beth bynnag. Erbyn 1162, yr oedd yn un o 'glerciaid' y llys brenhinol, a bu'n farnwr ar gylchdeithiau sawl tro, e.e. yn 1173 a 1185. Bu gyda Harri yn Ffrainc fwy nag unwaith, ac anfonwyd ef gan y brenin i Gyngor y Lateran yn Rhufain yn 1179. Yn y byd eglwysig, yr oedd yn brebendari yn S. Paul's, yn ganon ac yn gantor ac wedyn yn ganghellor, yn Lincoln. Rhoes marw Harri II derfyn ar ei yrfa fel gŵr llys, ond yn 1197 penodwyd ef yn archddiacon Rhydychen; cynigiwyd ef i fod yn esgob Henffordd yn 1199, ond ni fynnai'r brenin John mo hynny; yn 1203, awgrymodd ei gyfaill Gerallt Gymro (Giraldus) ei enw am esgobaeth Tyddewi - braidd dros yr ysgwydd, efallai. Yr oedd yn fyw ganol Mawrth 1208, ond yn 1210 sonia Gerallt amdano fel 'y diweddar.' Y mae ysgrif helaeth arno yn y D.N.B., gan C. L. Kingsford, ac ysgrif Gymraeg arno yn Y Llenor, 1931.

Credid gynt mai Map oedd awdur y canu 'Goliardaidd,' 'cerddi'r glêr,' a argraffwyd gan Thomas Wright yn 1841 - Latin Poems attributed to Walter Map. Ni chredir hynny heddiw, serch i M. R. James, gŵr o farn, dueddu i wrthod anghredu (ar y sail ' na wyddai ef am neb arall ym Mhrydain a allsai sgrifennu'r cerddi ' ond Map). Yn yr un modd, anghredir heddiw'r dyb mai Map bioedd stori Lawnslot yn y rhamantau Arthuraidd - gweler yr ymresymiad o blaid y dyb sydd gan Kingsford. Hen gamsyniad ystyfnig drachefn, yw uniaethu Map (gan iddo fod yn archddiacon Rhydychen) â'r archddiacon Walter o Rydychen (gweler dan ' Walter Calenius ' yn y D.N.B.) y dywed Sieffre o Fynwy iddo gael 'hen lyfr Llydaweg ' ganddo - yr oedd y Walter hwnnw wedi marw pan oedd Map yn fachgen. Fel y mae hi, yr unig waith y gellir i sicrwydd ei briodoli i Map yw'r De Nugis Curialium (efallai y gellid ei alw yn Gymraeg ' Lloffion o'r Llys'), nad yw ar glawr ond mewn un llawysgrif (Bodley 851), a argraffwyd yn bur wael (gan fod yr ysgrifen yn anodd i'w chodi) gan Thomas Wright yn 1850, ac yn llawer iawn cywirach gan M. R. James yn 1914; cyhoeddodd y Cymmrodorion yn 1923 gyfieithiad Saesneg gan James, gyda nodiadau hanesyddol gan (Syr) J. E. Lloyd a nodiadau ar y chwedloniaeth gan E. S. Hartland; cyhoeddwyd detholiad Cymraeg o'r storiau yn 1941 (Llandybie). Nid Map ei hun a 'drefnodd' y llyfr - pe bai trefn arno - nac a roes y teitl iddo (benthyg yw hwnnw o is-deitl Policraticus John o Salisbury). Casgliad difyr dros ben ydyw, o chwedloniaeth, 'adeiladaeth,' dychan, ac atgofion am hanes cyfoes. Gan i Map fod yn llygad-dyst, y mae'r pethau a adroddir ganddo am benaethiaid y gwledydd yn ei ddydd, a'i farn ar eu cymeriadau, yn werthfawr. Fel Gerallt Gymro yntau, ni phetrusai chwaith feirniadu'r Eglwys, ac yn enwedig yr urddau mynachaidd, yn bur hallt. Edrydd hefyd nifer o storïau am Gymru, ac y mae'n ddiddorol ar Gruffudd ap Llywelyn. Nid oes ddadl nad oedd Map yn ysgolhaig da; rhifodd M. R. James gryn ddeugain o feirdd a llenorion Lladin, o'r cyfnod clasurol a chyfnod y Tadau, y mae dyfyniadau neu atseiniau ohonynt yn y De Nugis - heb sôn am yr adnabyddiaeth drwyadl o'r Beibl a ddengys. Eto, afrwydd ac anodd yw ei arddull Ladin (o bosibl mai ar lygredd ein llawysgrif y mae peth o'r bai), ac ni ddeil ei gymharu â Lladin rhugl Gerallt Gymro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.