HYWEL ab EDWIN (bu farw 1044), brenin Deheubarth

Enw: Hywel ab Edwin
Dyddiad marw: 1044
Rhiant: Edwin ab Einion
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Deheubarth
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab Edwin ab Einion a gor-wyr i Hywel Dda. Pan fu'r cipiwr Rhydderch ap Iestyn farw yn 1033, daeth Hywel a'i frawd Maredudd, fel etifeddion hynaf Hywel Dda, yn gydfrenhinoedd Deheubarth. Bu Maredudd farw yn 1035, gan adael Hywel i deyrnasu ar ei ben ei hun, ac ar ei ysgwyddau ef y cwympodd y baich trwm o amddiffyn y De yn erbyn y Vikingiaid a chipiwr y Gogledd, Gruffydd ap Llywelyn. Alltudiwyd ef gan Gruffydd yn 1042 neu 1043, eithr dychwelodd yn 1044, a'r Daniaid yn gynghreiriaid iddo, a lladdwyd ef mewn brwydr yn ymyl aber afon Tywi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.