mab Iago ab Idwal, yn disgyn o Rodri Mawr, ac arglwydd Gwynedd o 1033 hyd 1039. Pan lofruddiwyd Iago yn 1039 gan ei wŷr ei hun a dyfod Gruffydd ap Llywelyn, o linach arall, i awdurdod, ffoes Cynan i blith Daniaid Dulyn. Yno priododd Ragnhildr, ŵyres Sitric 'â'r farf sidanog' (bu farw 1042), ac felly daeth i berthyn i'r teulu brenhinol. Yn ôl David Powel (Historie of Cambria) fe ymdrechodd ddwywaith i adennill ei dreftadaeth oddi ar Gruffydd gyda chymorth llynges o Ddulyn. Y tro cyntaf, sef yn 1041, llwyddodd i ddal ei elyn, ond bu i wŷr hwnnw ei ryddhau yn fuan; yr ail dro, yn 1052, chwythwyd ei longau i bob cyfeiriad gan ystorm fawr. Nid ydyw'r awdurdodau cynharaf yn dywedyd dim am y rhan a gymerth Cynan ei hunan yn yr ymgyrchoedd hyn, a rhaid, felly, amau a gymerasant le. Mor ddieithr ydoedd yng ngolwg y Cymry nes iddynt alw ei fab Gruffydd ap Cynan, pan ymddangosodd yn 1075 i hawlio ei dreftadaeth, yn ŵyr Iago. Dywed hanes bywyd Gruffydd ap Cynan i fam Iago ddysgu iddo pan yn blentyn o ba dras yr oedd a pha freiniau oedd yn ddyledus iddo, ac y mae hyn yn awgrymu i Gynan farw heb fod yn hir iawn ar ôl geni ei fab.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.