MAREDUDD ab OWAIN ap HYWEL DDA (bu farw 999), brenin Deheubarth

Enw: Maredudd ab Owain ap Hywel Dda
Dyddiad marw: 999
Plentyn: Angharad ferch Maredudd ab Owain
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Deheubarth
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Dilynodd ei dad oedrannus fel unig reolwr Deheubarth yn 986 a llwyddo yn y flwyddyn honno i wneuthur yr hyn y llwyddasai ei dad i'w wneuthur, sef aduno Gwynedd a Deheubarth trwy holl gyfnod ei deyrnasiad. Er gwaethaf anghytundeb teuluol gwnaeth argraff ffafriol ar ei gyfoeswyr oblegid ei arweiniad cryf a diofn yn erbyn y Saeson a'r Daniaid; gelwir ef yn y croniclau - ' clotvorussaf vrenin y Brytanyeit.' Efallai fod ei hawl bennaf i enwogrwydd yn gorffwys ar ei berthynas â Gruffudd ap Llywelyn; merch i Faredudd oedd Angharad, mam Gruffudd ap Llywelyn .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.