LLYWELYN ap SEISYLL (bu farw 1023), brenin Deheubarth a Gwynedd

Enw: Llywelyn ap Seisyll
Dyddiad marw: 1023
Priod: Angharad ferch Maredudd ab Owain
Plentyn: Gruffudd ap Llywelyn
Rhiant: Prawst ferch Elisedd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Deheubarth a Gwynedd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Ni wyddys ddim am ei dad, eithr yn ôl rhai achau diweddar yr oedd ei fam, Prawst, yn ferch Elisedd, mab iau i Anarawd ap Rhodri Fawr. Gan i Lywelyn briodi Angharad, merch Maredudd ab Owain ap Hywel Dda, yr oedd ganddo hawl, o bell, i olyniaeth yn Neheubarth a Gwynedd, hawl y gellid, yn amgylchiadau'r cyfnod, ei gwneuthur yn sylwedd gan arweinydd nerthol ac uchelgeisiol. Un felly'n union oedd Llywelyn; a chan iddo orchfygu, yn 1018, y gwr a gipiasai'r deyrnas, sef Aeddan ap Blegywryd, a hefyd orchfygu Rhain, ymhonnwr o Iwerddon, yn 1022, daeth yn bennaeth yn y De. Estynnodd ei reolaeth hefyd am rai blynyddoedd dros ran fawr o Gymru - cyfnod cofiadwy yn hanes Cymru a barnu oddi wrth y cronicl. Prif hawl Llywelyn ap Seisyll i enwogrwydd, fodd bynnag, ydyw'r ffaith mai ef oedd tad Gruffydd ap Llywelyn; gwnaethpwyd ei yrfa nodedig ef yn bosibl gan esiampl ei dad - yr oedd ei hawl ef i awdurdod yn seiliedig i raddau helaeth ar y cyfnod byr o benarglwyddiaeth 'de facto' Llywelyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.