SULIEN, ‘Sulgenus,’ a gyfenwid ‘Y Doeth,’ 1011 - 1091

Enw: Sulien
Dyddiad geni: 1011
Dyddiad marw: 1091
Plentyn: Ieuan
Plentyn: Daniel
Plentyn: Arthen
Plentyn: Rhygyfarch
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Hopkin Davies

Ganwyd yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion, o dras uchel — teulu clerigol, y mae'n debyg. Wedi iddo gael addysg am gyfnod maith mewn ysgolion Cymreig, Sgotaidd (pum mlynedd) a Gwyddelig (13 blynedd), dychwelodd i'w gynefin, sef Ceredigion, ac ennill enwogrwydd mawr fel athro ac fel ysgolhaig (gweler isod am y llawysgrifau Lladin a ysgrifennwyd o dan ei ysbrydiaeth). Yn ddiweddarach yn ei oes dewiswyd ef yn esgob Tyddewi o 1072/3 hyd 1078 ac eilwaith o 1080 hyd 1085; dilynwyd ef gan Wilfre, esgob annibynnol olaf Tyddewi. Bu farw yn 1091, yn 80 mlwydd oed, ac yn enwog am ei ddoethineb a'i gyraeddiadau fel ysgolhaig. Ef ei hunan a fu'n arwain cwrs addysg ei bedwar mab — Rhygyfarch, ARTHEN, DANIEL, a IEUAN; y mae pwysigrwydd llenyddol a dylanwad yr hyn y gellir ei alw yn ‘Ysgol Sulien’ yn hawdd ei ganfod. Bu Ieuan, prif offeiriad (' arch-presbyter ') Llanbadarn, f. yn 1137; gadawodd ef ar ei ôl, heblaw lluniau goreuredig mewn llawysgrif yn cynnwys gwaith Jerôm, gopi sydd eto ar gael yn ei lawysgrifen ef ei hun o ‘De Trinitate’ Awstin — ar rai o ddalennau'r gyfrol hon ysgrifennodd y copïydd gân fer yn Lladin am Sulien a'i deulu. Ni wyddys ddim am Arthen, eithr y mae'n debyg mai mab iddo, oedd yr ysgolhaig HENRY ab ARTHEN (bu farw 1163). Daeth Daniel (bu farw 1127) yn archddiacon Powys, a'i fab yntau, CYDIFOR (bu. f. 1163), yn archddiacon Ceredigion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/