Perthynai i'r bumed genhedlaeth ar ôl Hywel Dda ac yr oedd yn gyfyrder, yn y llinach hynaf, i Rys ap Tewdwr. Pan gwympodd Gruffudd ap Llywelyn yn 1063, adferwyd yr hen frenhiniaeth o dan ei arweiniad ef. Yr oedd cyfnod ei deyrnasiad yn cydredeg â thrawiad cyntaf y goncwest Normanaidd ar Ddeheudir Cymru. Wedi ymdrech fer ac unochrog, cydymddug â choncwest tiroedd y goror yng Ngwent a gwobrwywyd ef â thiroedd yn Lloegr; yn 1070 y bu hyn. Ddwy flynedd wedi hynny lladdwyd ef gan gyd-dywysog wrth ymladd ar lannau afon Rhymni. Gadawodd un mab, Gruffudd, a fu'n byw'n alltud ar diroedd Seisnig ei dad hyd nes y lladdwyd ef wrth iddo geisio adennill ei dreftadaeth oddi ar law Rhys ap Tewdwr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.