CARADOG FYNACH (bu farw 1124), meudwy

Enw: Caradog Fynach
Dyddiad marw: 1124
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meudwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Ganed ef o deulu da ym Mrycheiniog, a chafodd addysg leyg. Oherwydd ei gyraeddiadau, a gynhwysai ganu'r delyn, a'i dymer gymdeithasgar, cafodd fynd i wasanaethu Rhys ap Tewdwr (bu farw 1093). Dringodd yn uchel yn ffafr y tywysog hwnnw, ond bu mor anffortunus â cholli dau filgi gwerthfawr y rhoddwyd eu gofal arno, colled a gostiodd iddo golli ffafr Rhys. Oblegid bygythion cas ei feistr gorfu iddo adael y llys a phenderfynu mabwysiadu'r bywyd crefyddol. Cafodd loches ar y cyntaf yn Llandaf gan yr esgob Herwald a'i derbyniodd yn fynach. Cyn hir fe'i denwyd gan y bywyd meudwyaidd a gwnaeth iddo'i hun gartref fel mynach yn eglwys ddiffeithiedig Llangenydd yng Ngŵyr. Fe symudodd wedi hynny i Dyddewi lle y'i gwnaethpwyd yn offeiriad. Cawn ef yn nesaf ym môr-ynys Barri, yng ngogledd Penfro, eithr yr oedd yma'n rhy agored i ymosodiadau'r Sgandinafiaid, a rhoes esgob Tyddewi iddo gell meudwy yn eglwys Sant Ismael yn Rhos, a enwir heddiw wrth yr enw Haroldston S. Issels. Yno y treuliodd weddill ei oes, er dywedyd iddo fynd ar daith i Enlli, hynny yw os ef ydyw'r meistr Caradog, gŵr dysgedig iawn a ddaeth i'r ynys tua'r adeg hon i weled Elgar feudwy. Yn gynnar yn nheyrnasiad Harri I bu newid ym mhoblogaeth rhan o Benfro; daeth ymfudwyr Fflemingaidd i gymryd lle Cymry Rhos, ac ni bu cyfathrach Caradog â'i gymydog newydd, Tancard o Hwlffordd, yn rhyw gysurus iawn. Bu farw yn 1124 ar y Pasg bychan, ac er i Tancard geisio cadw'r corff fe'i cludwyd i Dyddewi a'i gladdu yn y groes ogleddol. Am gyfnod maith fe fu croes a chapel ar draeth Newgale yn dynodi'r fan lle y bu aros a gorffwys ar y siwrnai.

Fe ysgrifennodd Gerallt Gymro hanes Caradog; nid ydyw ar gael mwyach er, efallai, y ceir ei sylwedd yn Nova Legenda Anglie (arg. 1901), i, 174-6. Aeth Gerallt â'r hanes i Rufain a'i ddarllen gerbron Innocent III, gan amcanu cael canoneiddio ei gydwladwr; fe lwyddodd i raddau yn ei amcan gan iddo gael gan y pab lythyr yn dewis abadau y Tŷ-gwyn-ar-Daf, Llandudoch, ac Ystrad Fflur yn gomisiwn i edrych i'r achos (8 Mai 1200). Nid oedd penaethiaid y Tŷ-gwyn a Llandudoch yn rhyw dueddol iawn i wneuthur dim a wnâi gynorthwyo eu gwrthwynebwr yn yr ymgyrch am sedd Dewi, ac o'r herwydd nid aethpwyd â'r peth gam ymhellach.

Y mae eglwys Lawrenny ar y Milford Haven wedi ei chyflwyno i Garadog, ac yr oedd gerllaw Haroldston ffynnon a gysegrasid iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.