Haedda sylw oherwydd ei gysylltiadau clos â chyfoeswyr mwy enwog. Dywedir fod Teilo yn ewythr iddo a Tyfei ac Oudoceus yn frodyr. Ymddengys hefyd ymhlith disgyblion Dewi Sant; yn ' Llyfr Llandaf ' dywedir mai ef a ddilynodd y sant hwnnw yn Nhyddewi. Yn Nyfed yn unig y coffeir ei barch; gydag un eithriad, yn Sir Benfro yn unig y ceir eglwysi ar ei enw; yn wir, dywed traddodiad i'w dad, Buddig, tywysog Llydewig, fyw am gyfnod yn alltud yn Nyfed lle y priododd Anauved, chwaer Teilo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/