NICOLAS, DAFYDD (1705? - 1774), bardd

Enw: Dafydd Nicolas
Dyddiad geni: 1705?
Dyddiad marw: 1774
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

Tybiai T. C. Evans (‘Cadrawd’) mai ef oedd y gŵr o'r enw hwn a aned yn Llangynwyd yn 1705. Yr oedd yr hen bobl, meddai, yn sôn amdano fel un a fu'n cadw ysgol yn y plwyf. Rhestrai ‘Iolo Morganwg’ ef ymhlith y llenorion a oedd wedi eu haddysgu eu hunain. Bu'n byw wedi hynny yn Ystrad Dyfodwg, ac efallai yng Nglyncorrwg ac yng Nghwm-gwrach. Y mae'n gwbl bosibl mai ysgolfeistr crwydrad ydoedd yn y cyfnod hwn. Tua chanol y ganrif (neu efallai cyn hynny) enillodd sylw Williamsiaid Aberpergwm, a'r plas hwnnw fu ei gartref hyd ei farw. Mynnid yn y ganrif ddiwethaf mai fel ‘bardd teulu’ y cedwid ef yno, yr olaf, meddid, yng Nghymru, ond dywaid William Davies o'r Cringell, yn 1795-6, mai ‘private tutor’ ydoedd. Enillodd enw mawr iddo ei hun fel ysgolhaig clasurol, a chyfieithodd ran o'r Iliad i'r Gymraeg — o'r hyn lleiaf, dyna'r traddodiad yng Nglyn Nedd. Mynnai ‘Iolo Morganwg’ yntau ei fod yn medru Lladin, Groeg, a Ffrangeg, ac mai ef oedd y bardd cyfoethocaf ei awen ymhlith ei holl gydnabod. Er mai ychydig o sylw a roes i'r canu caeth, y mae'n eglur ei fod yn ffigur gweddol bwysig yn y deffroad llenyddol ym Morgannwg. Ei gerddi rhydd sy'n rhoddi ei le iddo fel bardd. Priodolir dwy gân iddo yn llyfr Maria Jane Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg, 1844, a cheir amryw eraill yn llawysgrifau ‘Iolo,’ cerddi i'w canu ar geinciau hen a diweddar. Yr oedd ganddo ddawn arbennig yn y cyfeiriad hwn, ac nid amhriodol fyddai ei alw yn ‘Geiriog’ y 18fed ganrif. Gwelir yma fardd telynegol, a glywai fiwsig geiriau, mydryddwr a ymhyfrydai yn hoywder ei fydrau. Ef, yn ddiamau, ydoedd bardd gorau Morgannwg yn y 18fed ganrif cyn dyddiau ‘Iolo.’ Dywedir yn gyffredin iddo yrru llythyr at Edward Evan yn trafod techneg y canu rhydd, ond y mae'n weddol sicr mai ‘Iolo’ a'i lluniodd. Fe'i claddwyd yn Aberpergwm, yn 1774.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/