WILLIAMS (TEULU), Aberpergwm, Glyn Nedd.

Hanoedd y teulu hwn o Forgan Fychan, ail fab Morgan Gam, a chysylltir ef yn ei gyfnod bore â Blaen Baglan; canodd beirdd o fri (gweler D. R. Phillips, isod) i aelodau ohono yn yr Oesoedd Canol. Sefydlogwyd y cyfenw arno gan ddisgynyddion William ap Jenkin ap Hopkin o Flaen Baglan; ei ail fab ef, Jenkin William, oedd y cyntaf i ymsefydlu yn Aberpergwm, tua 1500. Ni chododd neb nodedig iawn o'r teulu o hynny hyd ddiwedd y 18fed ganrif; ond ymhell cyn hynny (erbyn 1670, beth bynnag) yr oeddynt yn elwa ar y glo (a'r garreg haearn) ar y stad, gan ‘osod’ hawliau i ymgymerwyr. Gellid meddwl i'r llinach gyfreithlon ddod i ben gyda George Williams (a fu farw 1796), gŵr enwog am ei fedr mewn campau. Bernir mai mab ordderch iddo ef (neu efallai i'w dad o'r un enw) oedd REES WILLIAMS (bu farw 1812), a roes ail gychwyn disgleiriach i'r teulu. Yr oedd ef yn ymddiddori mewn llenyddiaeth; ceir ef yn 1802 yn gohebu â Southey; ond daliodd hefyd at Gymreictod nodedig y teulu hwn, a chafodd y bardd Dafydd Nicolas gartref ym mhlas Aberpergwm am amser maith ganddo. Ar yr ochr ddiwydiannol, Rees Williams a gymerth lofeydd Aberpergwm i'w ddwylo ef ei hunan, yn lle eu ‘gosod’ — yn 1810, ar ôl cryn ymgyfreithio â'r ymgymerwyr. Merch iddo oedd Maria Jane Williams. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf, WILLIAM WILLIAMS, ganwyd 7 Rhagfyr 1788, bu farw 27 Mawrth 1855. Yr oedd ef yn ŵr o gryn ddiwylliant, yn deithiwr mawr, a chyda hynny yn noddwr i lenorion Cymreig. Dyn ‘agos at ei bobl’ hefyd oedd ei fab REES WILLIAMS, a fu farw 9 Tachwedd 1863; cwbl Gymraeg oedd ei angladd, a phregethwyd er coffa amdano ym mhob addoldy yn yr ardal — cyhoeddodd gweinidog y Bedyddwyr, T. E. James ei bregeth ef, gyda marwnad. Ei olynydd oedd ei frawd Morgan Stuart Williams, ganwyd 1846, bu farw 13 Rhagfyr 1909. Prynodd ef gastell S. Dunwyd; ond ar ôl rhyfel 1914-9 gwerthwyd y castell, a glofeydd Aberpergwm hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/