JAMES, THOMAS EVAN ('Thomas ab Ieuan '; 1824 - 1870), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur

Enw: Thomas Evan James
Ffugenw: Thomas ab Ieuan
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1870
Rhiant: Mary James
Rhiant: Evan James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 17 Mawrth 1824, ym Mhencraig, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, mab Evan a Mary James. Symudodd y teulu i Aberteifi pan oedd ef tua 13 oed. Bu am beth amser yn was fferm Heolcwm, plwyf Ferwig, Sir Aberteifi. Ymunodd â'r Bedyddwyr, a bu'n gwasanaethu yn anordeiniedig yn eglwys Groesgoch, Sir Benfro (1851-2). Urddwyd ef, a gwnaed ef yn weinidog Pontestyll, ger Aberhonddu (1853-6). Bu hefyd yng Nghwmbach, Aberdâr (1856-8), Castell Nedd (1858-61), a Glyn Nedd (1861-70). Bu farw 21 Mehefin 1870. Ymhlith ei weithiau ceir Marwnad Joel Jones, gweinidog ym Mhwllheli; Coffadwriaeth y Cyfiawn neu sylwedd pregeth … or farw Dafydd Jones o Gaerdydd a Stephen Edwards o Rymni; Deigryn ar ol Cyfaill … John Jones, Merthyr; Cofiant … James Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Cincinatti, Ohio. Casglodd a golygodd ddetholiad o farddoniaeth, Bwrdd y Beirdd yn cynnwys Detholion Prydyddol o waith Prif Feirdd yr Oes, a golygodd hefyd lyfryn ar Christmas Evans, sef, Christmasia neu rai o nodweddiadau … Christmas Evans, gan Bleddyn (D. Owen, ' Brutus ').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.